Diwrnod Agored 2026

Sul 3 Mai

Ymunwch â ni ar gyfer ein diwrnod agored i ddathlu ein pen-blwydd ac i ddathlu hud y llwyfan yn ein hadeilad newydd hardd.

O deithiau o amgylch yr adeilad i gyfle i gael blas ar y sinema a dinasoedd cardfwrdd, profiadau cefn llwyfan, sŵs anwesu offerynnau a cherddoriaeth fyw ar y llwyfan.

Perffaith ar gyfer pob oedran, gyda bwyd a diod gan Bryn Williams a Wrexham Lager - dyma'r cyfle am ddim perffaith i gamu tu ôl i'r llenni yn y theatr rydych chi mor hoff ohoni,

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi.


Argymhellir archebu ymlaen llaw

No Booking Required Events


Cwestiynau Cyffredin

Ydw i’n gallu gollwng fy mhlant yn y digwyddiad?

Nac ydych. Dylai unrhyw un sydd o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Ydw i’n cael dod â fy mwyd a fy niod fy hun?

Ydych, bydd byrddau tu allan (a'r ardal o laswellt hyfryd ar gyfer picnic) ar gael.

Beth os yw gweithgaredd yn llawn?

Bydd nifer cyfyngedig o lefydd cofrestru ar y diwrnod ar gael drwy ein gwefan ni.

Faint o’r gloch mae eich drysau chi'n agor?

10am

Faint o’r gloch ydych chi'n cau?

6pm

Ydi popeth am ddim?

Mae pob gweithgaredd am ddim ar y diwrnod (ond mae croeso bob amser i roddion!). Gallwch brynu bwyd a diod wrth ymweld â ni hefyd.

Angen llecyn tawel?

Mae ein llecyn tawel aml-synhwyraidd ni’n berffaith os oes arnoch chi angen seibiant o fwrlwm y Diwrnod Agored, gyda chefnogaeth ein tîm Ymgysylltu Creadigol.

Lleoliad: Theatr Clwyd, Ystafell 2 y Celfyddydau ac Iechyd (Llawr Gwaelod)

Am ddim | Pob Oedran

Dim angen archebu

Cyfrannu

Mae ein holl weithgareddau ni ar gyfer ein diwrnod agored am ddim!

Os hoffech chi ein cefnogi ni er mwyn i ni allu parhau i weithio yn ein cymuned ac mewn ysgolion, a galluogi ein gwaith ni ar y llwyfan i ffynnu, ystyriwch wneud cyfraniad.


Hygyrchedd

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hygyrchedd wrth ymweld â'n hadeilad, cliciwch yma! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, defnyddiwch y sgwrs fyw neu ffoniwch ni ar 01352 344101.


Bwyd a Diod

Llwglyd? Bydd ein bwyty ni (gan y cogydd campus, Bryn Williams) ar agor ar gyfer cinio dydd Sul (argymhellir archebu'n gynnar!) ac, wrth gwrs, i'r rhai sy'n codi'n gynnar, ein brecwastau enwog.

Hefyd bydd bwydlen prydau ysgafn ar gael, a brechdanau, salads a chacennau, drwy gydol y dydd!