Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.
Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.
Dysgwch sut mae gweithredwr sain yn defnyddio bysedd cyflym a chlustiau da i gymysgu meicroffonau ac offerynnau yn ystod perfformiad theatr gerdd fyw o Little Shop Of Horrors.
Lleoliad: Theatr Clwyd, Ystafell Sain Fyw
Man Cyfarfod: Theatr Weston, Drws y Balconi
Am Ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud
Argymhellir archebu ymlaen llaw
