Profiad Cefn Llwyfan: Adeiladu Setiau

See dates and times  

Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.

Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.

Cyfle i ymweld â’n cyfleusterau gweithdy adeiladu newydd sbon lle rydyn ni’n adeiladu'r golygfeydd ar gyfer sioeau Theatr Clwyd o'r dechrau. Cewch wylio arddangosfeydd ac ymuno â sgyrsiau gyda'n tîm ni am adeiladu setiau.

Lleoliad: Theatr Clwyd, Gweithdy Golygfeydd

Man Cyfarfod: Theatr Weston, Drws 3

Am ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud

Argymhellir archebu ymlaen llaw