Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.
Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.
Ymunwch â'n tîm goleuo ni wrth iddyn nhw ddysgu'r technegau a'r sgiliau sydd eu hangen i oleuo sioe i chi. Bydd cyfle i chi ddysgu am beth mae desg goleuo yn ei wneud, y gwahaniaeth rhwng parcan a phroffil, a sut mae gyrfaoedd mewn LX (goleuo) yn cael eu creu!
Lleoliad: Theatr Clwyd, Theatr Moondance
Man Cyfarfod: Theatr Moondance, Drws A
Am ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud
Argymhellir archebu ymlaen llaw
