Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.
Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.
Cyfle i ymweld â’n gweithdy celf golygfeydd ni a'n ffrâm baentio lle rydyn ni’n paentio'r golygfeydd ar gyfer sioeau Theatr Clwyd. Gwyliwch arddangosfeydd ac ymuno â sgyrsiau gyda'n tîm ni am dechnegau paentio golygfeydd.
Lleoliad: Theatr Clwyd, Ffrâm Baentio
Man Cyfarfod: Theatr Weston, Drws 3
Am Ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud
Argymhellir archebu ymlaen llaw
