Profiad Cefn Llwyfan: Hedfan

See dates and times  

Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.

Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.

Cewch ddysgu sut mae setiau'n cael eu hadeiladu, sut mae newidiadau golygfeydd yn ymddangos yn ddi-dor, archwilio’r tŵr hedfan ac ymweld â'r llawr hedfan lle mae setiau'n cael eu hedfan i mewn ac allan.

Lleoliad: Theatr Clwyd, Theatr Moondance

Man Cyfarfod: Theatr Moondance, Drws A

Am ddim | 14+ Oed | Tua 30 munud

Argymhellir archebu ymlaen llaw

Dydi'r gweithgaredd yma ddim yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.