Once Upon a Tide… Ar Lan y Mor...

See dates and times  

Ahoi mêt! Beth am ddod i hwylio hefo Little Bill!

Cyfle i fwynhau perfformiad cyffrous o adrodd straeon byw!

Yn llawn môr-ladron, stormydd, trysor a digonedd o hud. Stori i gynhesu’r galon am ddewrder, caredigrwydd, a phŵer y môr. Byddwch yn barod am chwerthin, morloi, a llond cwch o antur.

Lleoliad: Theatr Clwyd, Ystafell Haydn Rees

Am ddim | Pob Oedran | Tua 60 munud

Argymhellir archebu ymlaen llaw