Profiad Cefn Llwyfan: Rheoli Llwyfan

See dates and times  

Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.

Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.

Y Rheolwr Llwyfan ydi’r glud mewn unrhyw gynhyrchiad - gan sicrhau bod popeth yn dod at ei gilydd ac yn gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon. Dysgwch gyfrinachau'r Rheolwr Llwyfan elitaidd, gydag awgrymiadau a chynghorion defnyddiol, yn y sesiwn ymarferol yma.

Lleoliad: Theatr Clwyd, Clore

Man Cyfarfod: Clore

Am ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud

Argymhellir archebu ymlaen llaw