Cyfle i weld sut rydyn ni’n dod â sioe yn fyw gyda'n harddangosfeydd ymarferol, y tu ôl i'r llenni yng nghefn y llwyfan.
Dan arweiniad aelodau profiadol o dimau technegol a chreu theatr Theatr Clwyd sy'n barod i ateb eich cwestiynau chi a dangos y feistrolaeth y tu ôl i'r hud i chi.
Ymunwch â'n tîm sain ni wrth iddyn nhw eich addysgu chi am seinyddion, amps a meicroffonau, esbonio sut rydyn ni’n chwarae cannoedd o glipiau cerddoriaeth ac effeithiau sain mewn un sioe gan ddefnyddio QLab, a sicrhau bod y sain yn cefnogi'r digwydd ar y llwyfan!
Lleoliad: Theatr Clwyd, Theatr Moondance
Man Cyfarfod: Theatr Moondance, Drws A
Am ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud
Argymhellir archebu ymlaen llaw
