Amgylchedd.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyrraedd carbon sero net. Dyna pam rydym wedi ei wneud yn flaenoriaeth - o lanhau traethau a gorffen ein defnydd o wellt plastig, i goetir newydd a phaneli solar.

Mae ein lle ar y blaned yn un sy'n bwysig i ni.


Cartref newydd gwyrdd...

๐Ÿ‘‹ Ffarwelio รข Nwy.

Mae ein hadeilad ni'n arwr di-danwydd ffosil sy'n cael ei bweru gan bympiau gwres ffynhonnell aer! Mae'n gynnes ac yn glyd heb niweidio'r blaned.

Drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, mae'n lleihau allyriadau carbon, gan arbed y Ddaear a chadw pawb yn glyd ac yn hapus hefyd.

๐ŸŒณ Helo i gynefinoedd Newydd.

Gyda waliau a thoeau gwyrdd ir, bydd ein hadeilad ni'n blodeuo'n freuddwyd i bawb syโ€™n hoff o fyd natur! Nid yn unig y mae'n hybu bioamrywiaeth, ond mae hefyd yn helpu i lanhau'r aer ac oeri'r amgylchedd.

Gwerddon ddeiliog syโ€™n wych i bobl a bywyd gwyllt.

๐ŸŒž Mwynhau'r Haul.

Cyn bo hir bydd ein hadeilad ni'n disgleirio'n llachar gyda phaneli solar, gan amsugno pลตer yr haul. Drwy ffrwyno ynni adnewyddadwy, gallwn leihau ein hรดl troed carbon a helpu i warchod byd natur.

๐Ÿ’ง Casglu Dลตr Glaw i Fflyshio'r Toiledau.

Mae casglu dลตr glaw i fflyshio toiledau yn hwyl ac yn eco-gyfeillgar!

Mae fel rhoi ail fywyd i rodd natur. Drwy ddefnyddio dลตr glaw, rydyn ni'n arbed dลตr croyw gwerthfawr ac yn lleihau'r defnydd o ynni, gan wneud pob fflysh yn fuddugoliaeth i'r blaned!

Diolchwn yn ddiffuant iโ€™n cyllidwyr ni, y WCVAa The Moondance Foundation am ein galluogi ni i gyflawni nifer oโ€™r mentrau gwyrdd hyn.


Beth ydym ni'n ei wneud?...

๐ŸŒฑ Plannu coetir newydd.

Mae coed yn wych. Maent yn darparu cynefinoedd naturiol i bryfed, adar ac ystlumod, yn tynnu carbon allan oโ€™r atmosffer ac yn oeriโ€™r ddaear oddi tanynt. Maen nhwโ€™n wych ar gyfer ein dyfodol aโ€™n heneidiau.

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i blannu 1,100 o goed brodorol!

๐Ÿ“— Theatre Green Book.

Maeโ€™r Theatre Green Book yn rhoi canllawiau iโ€™n diwydiant ni i weithreduโ€™n gynaliadwy. Maeโ€™n darparu cyfres o safonau ar gyfer creu theatr a lleoliadau โ€“ gan gynnwys y cyfleusterau sydd gennym ni yn ein hadeiladau a sut rydyn niโ€™n eu defnyddio. Rydyn niโ€™n gweithio gydaโ€™r Theatre Green Book ac yn ceisio sicrhau bod y sioeau rydyn niโ€™n eu creu yn cadw at y safonau hyn.

๐ŸŒ Cydweithio.

Rydyn niโ€™n gweithio gyda, yn cefnogi neuโ€™n dysgu gan ffrindiau ac arbenigwyr โ€“ pobl syโ€™n arwain y ffordd wrth gymryd camau cynaliadwy, yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae aelodau ein cwmni ni wedi derbyn Hyfforddiant Llythrennedd Carbon (gan Centre for Alternative Technology a Zero Carbon Britain gyda chefnogaeth gan Brifysgol Wrecsam) ac rydyn niโ€™n gweithio gydaโ€™r sefydliadau lleol, ysbrydoledig canlynol i leihau ein heffaith carbon.

Green Gumption | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru | Reset Scenery