Llogi Lleoliadau ac Ystafelloedd
Cyfarfodydd | Cynadleddau | Digwyddiadau.

Digwyddiadau Ysbrydoledig. Lleoliad o Safon Byd. Calon Gogledd Cymru.
Cyfle i greu digwyddiadau cofiadwy, effeithiol, gan ddod â phobl at ei gilyd am brofiad bythgofiadwy.
Wedi’i lleoli yng nghalon Sir y Fflint, yn edrych dros Fryniau Clwyd (ardal o harddwch naturiol eithriadol), Theatr Clwyd yw theatr a chanolfan celfyddydau arobryn Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd godidog a gofod hyblyg hardd, gall yr adeilad sydd wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar
ddarparu lle ar gyfer eich digwyddiadau a’u curadu, ar draws ystod o raddfeydd a chyllidebau.
Mae ein bwyty ni, Bryn Williams yn Theatr Clwyd, y mae ei fwyd tymhorol, cynaliadwy yn cael ei greu gan brif gogydd Cymru a’i dîm, yn cyd-fynd yn berffaith â’r theatr, y ddawns a’r comedi o safon byd sydd ar ein llwyfannau ni.
Y lleoliad perffaith i ysgogi, cymell, ysbrydoli a dathlu.
Ein Gofodau.
Beth bynnag yw eich digwyddiad chi, gallwn ei wella gyda bwyd a diod eithriadol a fydd yn cael ei ddarparu gan ein partneriaid ni yn Bryn Williams yn Theatr Clwyd. Cysylltwch â ni a gadewch i ni eich helpu i ddod o hyd i'r opsiwn arlwyo perffaith ar gyfer eich digwyddiad. O de, coffi a chacennau Cymreig traddodiadol i bwffe poeth ac oer neu bryd bwyd wrth y bwrdd, rydyn ni’n cynnig ystod eang o opsiynau i sicrhau eich bod chi a'ch gwesteion yn teimlo eich bod yn cael croeso cynnes.
I gefnogi eich digwyddiad ymhellach, rydyn ni hefyd yn cynnig rheolaeth bwrpasol ar y digwyddiad ac offer sain a fideo o ansawdd uchel.

Ystafell Foyle.
Lle i 20 i 500 o bobl.

Ystafell Haydn Rees.
Lle i uchafswm o 40 o bobl.

Ystafell Everett.
Lle i uchafswm o 12 o bobl.

Sinema.
Lle i uchafswm o 110 o bobl.
Wedi’i gynnwys:
🗸 Rheolwr Digwyddiad
🗸 Wifi Am Ddim
🗸 Dŵr a Gwydrau wrth y Bwrdd
🗸 Mewngofnodi cyn y digwyddiad
Pethau Ychwanegol:
🗸 Te, Coffi a Byrbrydau
🗸 Taflunydd a Sgrin
🗸 Meicroffon ac Offer Clywedol
🗸 Pecyn Tocynnau Theatr
🗸 Bwydlen Digwyddiadau ac Arlwyo
🗸 Peiriannydd Sain
🗸 Llwyfannu a Phodiwm

Ein Bwydlen.
Mae'r cogydd llwyddiannus o Gymru, Bryn Williams, yn dod â'i angerdd dros gynnyrch lleol tymhorol, cynaliadwy i Theatr Clwyd a'ch digwyddiadau chi.
Dechreuwch y diwrnod gyda croissants wedi'u pobi’n ffres a Jam Mafon nodedig Bryn, mwynhewch fwyd bowlen blasus, canapés neu'r fwydlen boeth lawn, o gig oen Cymreig wedi'i goginio'n araf i eog mizo wedi'i grilio...

Parti Nadolig
Parti Nadolig, eich ffordd chi. Pa bynnag becyn fyddwch chi’n ei ddewis, byddwch yn cael mwynhau ystafell Nadoligaidd breifat, diod pefriog neu gwrw wrth gyrraedd a bwyd tymhorol gan y cogydd nodedig o Gymru, Bryn Williams – tipyn mwy blasus na bwyd parti Nadolig arferol, a’r cyfan yn lleoliad unigryw Theatr Clwyd.
Cysylltu â Ni.
Mae ein tîm ni yma i helpu i gefnogi eich digwyddiad - o'r syniad cychwynnol i'r diweddglo mawr. Cwblhewch ffurflen ymholiadau am ddyfyn-bris pwrpasol ac am fwy o wybodaeth.
Fel arall, cysylltwch â'n tîm arbenigol ni ar events@theatrclwyd.com | 01352 344101.



