Dolenni Allweddol | Mynediad Clywedol | Mynediad Symudedd | Mynediad Gweledol | Hynt | Perfformiadau Hygyrch | Mynediad Archebu Tocynnau | Cysylltu


Rydym wedi ymrwymo i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Rydym am i bawb fwynhau ymweld â ni, felly rydym wedi crynhoi gwybodaeth at ei gilydd i ateb unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu bryderon a allai fod gennych.

Gallwch ddysgu mwy am ein hymrwymiad i fynediad a chydraddoldeb anabledd ar waelod y dudalen.



Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Cliciwch yma i anfon e-bost neu rhowch alwad ffôn i'n tîm gwerthu.


Beth a olyga Mynediad a Chydraddoldeb Anabledd i ni

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb.

Rydym yn rhannu uchelgais Cyngor Celfyddydau Cymru i gynorthwyo i gyflawni 'Cymru deg a chyfartal lle mae'r celfyddydau ar gael yn eang ac yn hawdd i bawb,' ac, fel hwythau, 'yn benderfynol o hyrwyddo amrywiaeth a chwalu'r rhwystrau sy'n atal hyn rhag digwydd. '

Ymdrechwn i fod yn sefydliad lle y teimla pawb bod croeso iddyn nhw, eu cefnogi a'u hyrwyddo. Rydym eisiau i'r lleisiau rydyn ni'n eu ehangu a'r bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw fod mor amrywiol â'r byd rydyn ni'n byw ynddo.

Gwerthfawrogwn yn fawr brofiad bywyd pobl Fyddar, anabl a niwrowahaniaeth, unrhyw un sydd â gofynion mynediad a’r rhai sy’n wynebu cael eu hallgáu’n rheolaidd neu rwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad i’r celfyddydau.

Mae’r hyn rydym yn ei wneud i gyflawni hyn yn cynnwys:

  • Cefnogi gwaith We Shall Not Be Removed, cydweithfa sy’n gweithio yn y celfyddydau i sicrhau nad yw’r cynnydd a wnaed o ran hygyrchedd a chydraddoldeb yn cael ei anwybyddu yn adferiad Covid-19.
  • Rydym wedi gweithredu eu 7 Egwyddor Cynwysiadol.
  • Hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i'n holl dîm.
  • Hyfforddiant i ymgorffori hygyrchedd a chynhwysiant yn y ffordd rydym yn gweithio.
  • Gweithgor mynediad sydd â phrofiad byw o anabledd.
  • Croesawn adborth gan unrhyw un sy'n defnyddio ein sefydliad.
  • Rydym yn sefydliad ardystiedig sy'n Gyfeillgar i Ddementia.
  • Mae aelodau ein tîm yn llysgenhadon Cyfeillion Dementia.
  • Derbynia ein staff hyfforddiant Cyfeillion Dementia.
  • Gweithiwn gyda phedwar sefydliad arall yng Nghymru i wneud y diwydiant theatr prif ffrwd yng Nghymru yn fwy hygyrch a chynhwysol i gynulleidfaoedd, cyfranogwyr a gweithwyr theatr, boed yn ffrilans neu mewn cyflogaeth. Cliciwch yma am fwy.
  • Rydym yn aelodau o gynllun cerdyn HYNT sy’n cynnig tocynnau cymar rhad ac am ddim i unrhyw un sydd angen cymorth rhywun arall i fynychu digwyddiadau celfyddydol. Cliciwch yma am fwy.