Cyflwyniad i fonologau!

See dates and times  

O ‘To be, or not to be’ o Hamlet i ‘This is me’ o Death Of A Salesman neu hyd yn oed Fleabag – mae monologau ymhlith darnau mwyaf dramatig a heriol y theatr i berfformwyr.

Ymunwch â’n cyfarwyddwr dan hyfforddiant preswyl ni, Dena Davies, am weithdy actio rhyngweithiol lle byddwch chi’n archwilio technegau ar gyfer ymdrin â monologau. Addas ar gyfer 12 oed a hŷn.

Lleoliad: Theatr Clwyd, Stiwdio Anne Duges Westminster

Am ddim | 12+ Oed | Tua 45 munud

Argymhellir archebu ymlaen llaw