Dawns Fertigol: Awen

Sul 3 Mai

Dawns fertigol hardd yn hongian o flaen adeilad newydd Theatr Clwyd.

Mae pedwar dawnsiwr yn rhan o Awen, ysbryd creadigrwydd ac ysbrydoliaeth sydd bob amser yn bresennol yn Theatr Clwyd. Drwy ddawns fertigol, mae Awen yn dod yn fyw, yn troelli ac yn esgyn.

Yn hongian ar bileri'r theatr, mae hi'n croesawu ac yn cofleidio pawb sy'n ymgynnull ac yn dod i mewn drwy ei drysau.

Cwmni Dawns Hedydd | Cerddoriaeth a Disgrifiad Sain gan Eadyth Crawford

Lleoliad: Theatr Clwyd, Tu Allan

Am Ddim | Pob Oedran | Tua 30 munud | 11am, 2pm a 5pm