Mentrwch yn rhan o’r bwrlwm gyda'n Cyfarwyddwr Gweithredol (a'n hathro ymladd llwyfan cymwys), Liam Evans-Ford, mewn gweithdy ymladd llwyfan heb arfau.
Bydd cyfle i chi ddysgu sut i berfformio rhai o'r symudiadau ymladd mwyaf cyffrous yn ddiogel ar y llwyfan.
Lleoliad: Theatr Clwyd, Stiwdio Anne Duges Westminster
Man Cyfarfod: Stiwdio Anne Duges Westminster
Am ddim | 12+ Oed | Tua 45 munud
Argymhellir archebu ymlaen llaw
