Telerau ac Amodau

Amodau gwerthiant
  • Ni ellir ad-dalu tocynnau
  • Mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i wrthod mynediad ac, os oes angen, newid y rhaglen heb roi gwybod.
  • Nid ydym yn caniatรกu defnyddio camerรขu neu offer recordio.
  • Ni fydd pobl sy'n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad nes bod egwyl addas yn y perfformiad.

Dychweliadau ac Ail-werthiant

Gall tocynnau gael eu cyfnewid ar gyfer perfformiad arall o'r un cynhyrchiad hyd at 24 awr cyn i'r perfformiad gychwyn (ffi o ยฃ1 y tocyn). Mae hyn yn รดl penderfyniad y rheolwyr ac yn amodol ar argaeledd.

Gall tocynnau nad ydych eisiau, gael eu dychwelyd iโ€™r Swyddfa Docynnau ar gyfer ail-werthiant. Ceir tocynnau sydd wedi eu dychwelyd gael eu cynnig ar gyfer ail-werthiant dim ond os ywโ€™r perfformiad wedi gwerthu allan. Bydd cwsmeriaid yn derbyn ad-daliad neu gredyd am werth unrhyw docynnau a ail-werthir. Bydd ffi o ยฃ1 y tocyn yn cael ei godi ar ail-werthiant. (Ni fydd ad-daliad/credyd yn cael ei roi am unrhyw docyn heb ei ail-werthu).


Aelodaeth
  1. Cyflwyniad

    Diolch am ddod yn Aelod o Theatr Clwyd. Mae Telerau ac Amodau eich Aelodaeth fel a ganlyn. Darllenwch yn ofalus oherwydd trwy gyflwyno'r cais Aelodaeth a thalu'r Ffi Aelodaeth rydych chi'n cytuno i fod yn rhwym i'r telerau ac amodau hyn. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd eich Aelodaeth wedi'i derbyn ac yna bydd hyn yn creu contract dilys a rhwymol rhyngoch chi a Theatr Clwyd.
  2. Diffiniadau

    Mae Theatr Clwyd yn golygu Theatr Clwyd o Raikes Lane, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA.

    Mae Aelod yn golygu chi/neu unrhyw Aelod arall o Gynllun Aelodaeth Theatr Clwyd (yn dibynnu ar y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio ynddo).

    Nodir os gwelwch yn dda bod y telerau ac amodau yn berthnasol i holl Aelodau.

    Mae Buddion Aelodaeth yn golygu'r buddion a nodir isod.

    Mae Cerdyn Aelodaeth yn golygu'r cerdyn neu gardiau rydych wedi eu derbyn gan Theatr Clwyd yn cadarnhau eich bod yn Aelod.

    Mae Ffi Aelodaeth yn golygu'r arian rydych wedi ei dalu i Theatr Clwyd er mwyn dod yn Aelod.

    Mae Cyfnod Aelodaeth yn golygu'r dyddiad o'r cyfnod mae Theatr Clwyd yn cydnabod eich Aelodaeth yn dilyn derbyn eich Ffi Aelodaeth i'r dyddiad ble bydd eich Aelodaeth yn dod i ben. Bydd hyn fel arfer yn gyfnod o 12 mis o'r dyddiad rydym yn cydnabod derbyn eich Ffi Aelodaeth. Nodir eich Cyfnod Aelodaeth ar eich Cerdyn Aelodaeth.

    Mae chi neu eich yn golygu'r person a enwyd yng nghais yr Aelodaeth.
  3. Buddion i Aelodau

    3.1 Fel Aelod o gynllun Aelodaeth Theatr Clwyd, cewch hawlio:

    3.1.2 Archebu blaenoriaeth;
    3.1.4 5% ychwanegol oddi ar danysgrifiad;
    3.1.5 Cerdyn Aelodaeth Swyddogol;
    3.1.6 Digwyddiad blynyddol i aelodau;
    3.1.7 Cylchlythyr yr Aelodau;
    3.1.8 Ardal aelodau ar-lein.



    3.2 Maeโ€™r amodau canlynol yn berthnasol i fanteision yr Aelodau:
    3.2.1 Nid oes modd trosglwyddo Cardiau Aelodaeth.
    3.2.2 Gweithredir blaenoriaeth wrth archebu ar gyfer digwyddiadau a ddewisir gan Theatr Clwyd yn unol รขโ€™i disgresiwn llwyr. Rydym yn cadwโ€™r hawl i eithrio rhai digwyddiadau o gyfnod archebu blaenoriaeth yr Aelodau.
    3.2.3 Bydd gan rai gweithgareddau a lleoliadau gyfyngiadau o ran niferoedd ac efallai y gwrthodir mynediad ar unrhyw adeg.
    3.2.4 Mae tocynnau am ddim i ddigwyddiadau iโ€™w defnyddio ar gyfer y digwyddiadau / dangosiadau a ddewisir gan Theatr Clwyd a hefyd byddant yn dibynnu ar argaeledd.
    3.2.6 Rhaid i chi ddangos eich Cerdyn Aelodaeth yn ystod pob ymweliad i gael y Manteision Aelodaeth. Rhaid rhoi gwybod am golli Cerdyn Aelodaeth i Theatr Clwyd, syโ€™n cadwโ€™r hawl i godi ffi resymol am Gardiau Aelodaeth newydd.
    3.2.7 Ni ddylech adael i unrhyw un arall ddefnyddio eich Cerdyn Aelodaeth. Gall gadael i rywun arall ddefnyddio eich Cerdyn Aelodaeth arwain at ganslo eich Cerdyn Aelodaeth heb rybudd. Ni roddir ad-daliad am Ffioedd Aelodaeth o dan yr amgylchiadau hyn.
  4. Eich manylion

    4.1 Am fanylion llawn am sut rydym yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd, sydd ar gael iโ€™w lawrlwytho oโ€™n gwefan ni yn www.theatrclwyd.com
  5. Ffioedd a Thaliadau Aelodaeth

    5.1 Bydd pob Aelod yn talu Ffi Aelodaeth flynyddol. Mae Theatr Clwyd yn cadwโ€™r hawl yn unol รขโ€™i disgresiwn llwyr i newid y Ffi Aelodaeth bob blwyddyn.

    5.2 Mae eich Aelodaeth yn ddilys ar unwaith oโ€™r diwrnod mae eich Aelodaeth yn cael ei chydnabod gan Theatr Clwyd (ar รดl i Theatr Clwyd dderbyn y Ffi Aelodaeth gydaโ€™r arian wedi clirio) ac fel rheol bydd yn ddilys am 12 mis oni bai, er enghraifft, eich bod wedi prynu Cyfnod Aelodaeth hirach. Os nad ydych yn adnewyddu eich Aelodaeth, bydd yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y Cyfnod Aelodaeth, oni bai ei bod yn cael ei hadnewyddu yn unol รข chymalau 5.4 neu 5.5 isod.

    5.3 Ar รดl iโ€™ch Aelodaeth ddod i ben, ni fyddwch yn Aelod mwyach ac ni fydd gennych hawl i dderbyn unrhyw Fanteision Aelodaeth.

    5.4 Adnewyddu gydag arian parod neu gerdyn credyd / debyd: Pan ddaw pob Cyfnod Aelodaeth i ben, bydd Theatr Clwyd yn anfon neges atgoffa atoch chi i adnewyddu, a bydd eich Aelodaeth yn cael ei chanslo oni bai a nes derbynnir Ffi Aelodaeth bellach gennych chi.

    5.6 Er mwyn cydymffurfio รข chanllawiau CThEM, nid yw Theatr Clwyd yn gallu derbyn sieciau CAF fel taliad am Aelodaeth.

    5.7 Mae Theatr Clwyd yn cadwโ€™r hawl yn unol รขโ€™i disgresiwn i wrthod neu derfynu Aelodaeth os bydd ymddygiad Aelod, ym marn resymol Theatr Clwyd, yn cael ei ystyried mewn unrhyw ffordd fel ymddygiad syโ€™n aflonyddu, yn achosi gofid neuโ€™n achosi anhwylustod i Aelodau eraill, unrhyw ymwelydd รข Theatr Clwyd, unrhyw aelod o staff Theatr Clwyd, ac unrhyw gyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr, noddwyr, cyfranwyr neu gefnogwyr eraill i Theatr Clwyd, neu os yw Aelod yn mynd yn groes i unrhyw rai oโ€™r telerau aโ€™r amodau hyn.

    5.8 Yn amodol ar unrhyw hawl statudol i ganslo, nid oes modd ad-dalu eich Ffi Aelodaeth ar รดl i Theatr Clwyd dderbyn y taliad. Os byddwch yn ymuno ar-lein neu dros y ffรดn, cewch newid eich meddwl a chanslo eich Aelodaeth ar yr amod eich bod yn dweud wrth Theatr Clwyd o fewn 14 diwrnod i ddyddiad cydnabyddiaeth Theatr Clwyd oโ€™ch Aelodaeth. Cewch wneud hyn drwy gysylltu รข ni fel y nodir yn y telerau aโ€™r amodau hyn neu drwy ddefnyddioโ€™r ffurflen ganslo sydd wediโ€™i hatodi gydaโ€™r telerau aโ€™r amodau hyn. Bydd Theatr Clwyd yn rhoi ad-daliad llawn i chi o unrhyw Ffi Aelodaeth sydd wediโ€™i thalu (oni bai eich bod wedi defnyddio manteision yr Aelodaeth yn ystod yr 14 diwrnod yma โ€“ os felly, byddwch yn cydnabod eich bod yn gyfrifol am gyfran oโ€™r Ffi Aelodaeth mewn perthynas รขโ€™r gwasanaethau rydym wediโ€™u cyflenwi i chi yn ystod y cyfnod hwn ac felly ni fyddwch yn derbyn ad-daliad llawn oโ€™r swm a dalwyd). Sylwer nad ywโ€™r hawl canslo cynnar ymaโ€™n berthnasol os ydych chiโ€™n ymuno wyneb yn wyneb.

    5.9 Nid oes modd trosglwyddo hawliau Aelodaeth.

    5.10 Daw hawliau Aelodaeth i ben pan fydd Aelod yn marw neu pan fydd unigolyn yn rhoiโ€™r gorau i fod yn Aelod.

  6. Cyhoeddiadau a Deunyddiau Eraill

    6.1 Oni bai y nodir yn wahanol, mae Theatr Clwyd yn cadwโ€™r holl hawlfraint aโ€™r holl hawliau eraill cysylltiedig รข chyhoeddiadau a deunyddiau a gyflenwir gan Theatr Clwyd. Ni chaiff Aelodau atgynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu, gwerthu nac ecsbloetioโ€™n fasnachol y deunyddiau hyn heb ganiatรขd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Theatr Clwyd neu iโ€™r graddau y caniateir hynny yn unol รขโ€™r gyfraith.

  7. Atebolrwydd

    7.1 Mae Theatr Clwyd yn atebol i chi am Golled neu Ddifrod Rhagweladwy syโ€™n codi o dorri contract Theatr Clwyd gyda chi neu ein hesgeulustod ond nid fel arall.

    7.2 Yn amodol ar gymal 5.1, mae atebolrwydd Theatr Clwyd i chiโ€™n gyfyngedig i swm eich Ffi Aelodaeth flynyddol.

    7.3 Nid oes unrhyw beth yn y telerau aโ€™r amodau hyn yn eithrio neuโ€™n cyfyngu ar atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod Theatr Clwyd neu am dwyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus.

  8. Cyffredinol

    8.1 Nid yw methiant neu oedi ar ran Theatr Clwyd i ymarfer neu orfodi unrhyw hawl yn y telerau hyn yn cyfateb i ildio hawliau oโ€™r fath.

    8.2 Mae Theatr Clwyd yn cadwโ€™r hawl i wneud y canlynol:
    8.2.1 Gwneud mรขn addasiadau iโ€™r telerau aโ€™r amodau hyn er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn deddfau perthnasol a gwneud mรขn addasiadau a gwelliannau technegol, ar รดl rhoi rhybudd rhesymol i chi. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich Manteision Aelodaeth, neu
    8.2.2 Gwneud newidiadau mwy sylweddol iโ€™r telerau aโ€™r amodau hyn, yn unol รขโ€™i disgresiwn llwyr ar unrhyw adeg, gan gynnwys gwneud newidiadau iโ€™r Manteision Aelodaeth. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid arfaethedig ac wedyn cewch gysylltu รข ni i ganslo eich Aelodaeth a derbyn ad-daliad oโ€™r rhannau heb eu defnyddio oโ€™ch Ffi Aelodaeth cyn iโ€™r newidiadau ddod i rym.

    8.3 Llywodraethir y telerau aโ€™r amodau hyn gan y gyfraith a byddant yn cael eu dehongli yn unol รขโ€™r gyfraith hefyd ac, os bydd unrhyw anghydfod yn codi oโ€™r telerau aโ€™r amodau hyn a / neu eich Aelodaeth, rydych chiโ€™n cytuno รข Theatr Clwyd i ildio i awdurdodaeth lwyr y llysoedd.

    8.4 Rhaid i bob Aelod fod yn 18 oed neuโ€™n hลทn.

    8.5 Mae Theatr Clwyd yn cadwโ€™r hawl i gael gwared ar fanteision yn unol รขโ€™n disgresiwn er mwyn bodloni gofynion CThEM neu fel arall i gydymffurfio ag unrhyw newid yn y gyfraith.

    8.6 Gallwch gysylltu รข ni drwy ein ffonio ar +44(0)1352 344101 neu drwy anfon e-bost i members@theatrclwyd.com neu drwy ysgrifennu atom ni yn yr Adran Cyfathrebu, Aelodaeth, Theatr Clwyd, Lรดn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA.

    8.7 Os oes raid i Theatr Clwyd gysylltu รข chi, byddwn yn gwneud hynny drwy eich ffonio neu drwy ysgrifennu atoch chi gan ddefnyddioโ€™r cyfeiriad e-bost neuโ€™r cyfeiriad post rydych chi wediโ€™i roi i ni yn eich cais am Aelodaeth.

  9. Canslo

    Os hoffech chi ganslo eich Aelodaeth ar unrhyw adeg, cewch wneud hynny drwy gyflwyno cais ysgrifenedig iโ€™r Adran Cyfathrebu, Aelodaeth, Theatr Clwyd, Lรดn Raikes, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA, neu ar e-bost i members@theatrclwyd.com, gan gynnwys y manylion canlynol:

    Yr wyf i/Yr ydym ni [*] trwy hyn yn rhoi rhybudd fy mod i/ein bod ni [*] yn canslo fy/ein [*] Aelodaeth o Gynllun Aelodaeth Theatr Clwyd; a archebwyd ar [*]/dderbyniwyd ar [*]; Enwโ€™r Aelod(au); Cyfeiriad yr Aelod(au); Llofnod yr Aelod(au); Dyddiad. [*] Rhaid dileu fel syโ€™n briodol.