Mynediad Symudedd
Dolenni Allweddol | Mynediad Clywedol | Mynediad Symudedd | Mynediad Gweledol | Hynt | Perfformiadau Hygyrch | Mynediad Archebu Tocynnau | Cysylltu
Benthyg cadair olwyn
Mae gennym ddwy gadair olwyn â llaw ar gael i'w benthyg yn ystod eich ymweliad. Gofynnwch i'n tîm neu gofynnwch fod un ar gael i chi yn ein man gollwng mynediad neu faes parcio trwy gysylltu â ni (cliciwch yma).
Llefydd ar gyfer Cadair Olwyn
Gall defnyddwyr cadair olwyn gadw lle cadair olwyn – gellir gwneud hyn yn bersonol, dros y ffôn neu fesul ein gwefan. Am wybodaeth am archebu lle i gadair olwyn ar-lein cliciwch yma
Trosglwyddo o gadair olwyn
Os hoffech drosglwyddo o gadair olwyn i sedd gallwn gadw eich cadair olwyn yn ddiogel a’i dychwelyd atoch yn ystod yr egwyl ac ar ddiwedd y sioe. Gallwn wneud hyn gydag unrhyw fframiau cerdded neu ffrâm gerdded gydag olwynion.
Sgwteri Symudedd
Oherwydd cyfyngiadau lle nid oes modd defnyddio sgwteri symudedd fel sedd yn ein theatrau. Nid oes gan ein toiledau hygyrch le troi ar gyfrer sgwteri symudedd. Gallwn fenthyg cadair olwyn â llaw ar gyfer eich ymweliad.
Theatr Mix – Mynediad Symudedd
- Mae gan Theatr Mix 2 le i gadeiriau olwyn, un bob ochr i res A gyda seddi cymar ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn wrth eu hymyl.
- Mae rhesi A a B yn fynediad gwastad.
- Mae uchafswm o 10 cam hyd at res K.
- Mae mynediad i Theatr Mix o ochr chwith yr awditoriwm.
- Nid oes breichiau i'r seddi.
Mae seddau cymar wrth ymyl neu mor agos at ein mannau cadair olwyn (symbol defnyddiwr cadair olwyn) wedi'u nodi â seren.
Y Big Top – Mynediad Symudedd
- Mae gan ein Theatr Big Top 10 o lefydd cadair olwyn gyda thocynnau cymar ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn drws nesaf iddynt yn rhes A.
- Rhes A yw'r unig res mynediad gwastad a gellir cael mynediad iddi trwy Ddrysau 1 a 6.
- Lleolir blociau 1 a 3 agosaf at y drysau ar gyfer mynediad gwastad.
- Am ragor o wybodaeth am ein Big Top ewch i'n tudalen Gwybodaeth Bellach.
- Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ddewis y seddi gorau, siaradwch â’n tîm yn y Swyddfa Docynnau dros y ffôn ar 01352 344 101 neu e-bostiwch boxoffice@theatrclwyd.com.
Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?
Cliciwch yma i anfon e-bost neu rhowch alwad ffôn i'n tîm gwerthu.