Anableddau Cudd ac Iechyd Meddwl

Dolenni Allweddol | Mynediad Clywedol | Mynediad Symudedd | Mynediad Gweledol | Hynt | Perfformiadau Hygyrch | Mynediad Archebu Tocynnau | Cysylltu


Mae rhai anableddau a chyflyrau’n anweledig. Nid yw ymddangosiadau allanol bob amser yn adlewyrchu gofynion mynediad person. Pa mor weladwy bynnag yw eich gofynion mynediad, rydym am i'ch ymweliad fod yn hygyrch ac yn groesawgar. Deallwn hefyd y gall cyflwr iechyd meddwl neu ofid, boed yn y tymor hir neu'r tymor byr, effeithio arnoch chi'n ymweld â ni.


Anableddau Cudd, Cortynnau Blodau’r Haul a Chardiau

Mae croeso i chi wisgo'ch cortynnau gwddf neu ddangos eich cerdyn Anableddau Cudd i ni os y dymunwch. Mae ein tîm yn cydnabod eu hystyr a gallant eich cynorthwyo yn ôl yr angen.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein theatrau a'n cyfleusterau

Y Wefan Hon

Ar y wefan hon byddwn yn ceisio dangos y wybodaeth ganlynol am ein sioeau:

  • Amser rhedeg pob sioe.
  • Unrhyw rybuddion sbardun a chynnwys ar gyfer sioe.
  • Effeithiau megis goleuadau strôb a synau uchel.
  • Unrhyw berfformiadau hygyrch (am restr lawn o sioeau hygyrch cliciwch yma)

Nid yw’r wybodaeth hon ar gael bob amser felly os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’n tîm swyddfa docynnau.


Pethau Defnyddiol I Wybod Amdanynt
  • Rydym yn Sefydliad Cyfeillion Dementia ardystiedig ac mae ein staff wedi derbyn hyfforddiant Cyfeillion Dementia.
  • Rydym yn croesawu cŵn cymorth.
  • Cliciwch yma am wybodaeth mynediad symudedd.
  • Yn gyffredinol mae ein theatrau ar agor 30 munud cyn i’r sioe ddechrau – os oes angen i chi gymryd eich sedd yn gynt, byddwn ni’n helpu lle gallwn ni.
  • Mae gennym 2 gadair olwyn llaw i'w benthyg.
  • Mae ein toiledau hygyrch yn dangos arwyddion “nid yw pob anabledd yn weladwy”.
  • Os yw'n well gennych osgoi ciwio neu fannau prysurach, mae gennym ap ar gyfer archebu ymlaen llaw a thalu am ddiodydd, byrbrydau a hufen iâ, sydd ar gael ar iphone ac android. Chwiliwch am ‘Theatr Clwyd Bars’ yn y stordy ap.
  • Rydym yn derbyn arian parod a cherdyn pan fyddwch yn gwneud unrhyw daliad.
  • Ni allwn warantu amgylchedd heb arogl i unrhyw un sydd ag alergeddau persawr neu gemegol penodol.
  • Nid oes gennym le penodol i ymlacio ar gyfer ein perfformiadau hamddenol, ond mae croeso i chi eistedd yn ein bar neu ar y meinciau picnic o flaen y babell fawr.
  • Mae croeso i chi ddod ag unrhyw amddiffynwyr clust, sbectol sensitifrwydd golau, ffidgets ac eitemau o gysur gyda chi i unrhyw un o'n perfformiadau.

Unrhyw Gwestiynau?

Gallwch siarad gyda thîm ein Swyddfa Docynnau ar 01352 344 101 neu e-bostio boxoffice@theatrclwyd.com neu access@theatrclwyd.com.

Os hoffech ymweliad ymgyfarwyddo cyn archebu gyda ni, e-bostiwch access@theatrclwyd.com


Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Cliciwch yma i anfon e-bost neu rhowch alwad ffôn i'n tîm gwerthu.