Dolenni Allweddol | Mynediad Clywedol | Mynediad Symudedd | Mynediad Gweledol | Hynt | Perfformiadau Hygyrch | Mynediad Archebu Tocynnau | Cysylltu


Rydym yn aelodau o gynllun cerdyn mynediad cenedlaethol Hynt, sy'n rhoi tocyn cymar am ddim i bobl sydd angen cymorth i fynychu digwyddiadau i ddigwyddiadau celfyddydol yn lleoliadau aelodau Hynt ar draws Cymru.

Rhoddir cardiau i'r person sydd angen cymorth ac nid i'r cymar, gofalwr neu CP, felly gall unrhyw un yr ydych yn dymuno dod gyda chi eu defnyddio ar yr amod eu bod dros 18 oed. Nid oes angen iddyn nhw ychwaith fod yn ofalwr cofrestredig neu ofalwr cyflogedig.

Mae cardiau at ddefnydd unigol, os hoffech ragor o wybodaeth am archebion grŵp neu ba ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer grwpiau eraill lle mae angen gofalwyr a Chynorthwywyr Personol ar gyfer ymweliad â theatr, megis cartrefi nyrsio, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01352 344 101 neu boxoffice@theatrclwyd.com.

Am fwy o wybodaeth am gymhwysedd cliciwch yma neu cliciwch yma i wneud cais. Bydd angen i chi ddarparu prawf cymhwysedd, er hynny dim ond unwaith y bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth hon ac nid ym mhob lleoliad neu ar gyfer pob archeb. Bydd angen i chi hefyd gynnwys ffotograff a fydd yn cael ei arddangos ar eich cerdyn. Gwelwch ein tudalen atebion a chwestiynau pellach am fwy o wybodaeth.

Os mai dyma'r tro cyntaf i chi archebu eich cerdyn Hynt gyda ni, bydd angen i chi archebu dros y ffôn i ychwanegu eich cerdyn Hynt at eich cyfrif. Neu gallwch anfon e-bost atom gyda'ch manylion aelodaeth y gellir eu hychwanegu at eich cyfrif.

Unwaith y bydd eich cerdyn Hynt wedi'i gysylltu â'ch cyfrif gallwch yna archebu tocynnau dros y ffôn neu ar-lein a bydd eich tocyn cymar cymwys am ddim yn cael ei dynnu wrth y ddesg dalu.

Cliciwch yma i ddysgu am archebu tocynnau hygyrch ar-lein.


Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Cliciwch yma i anfon e-bost neu rhowch alwad ffôn i'n tîm gwerthu.