Dolenni Allweddol | Mynediad Clywedol | Mynediad Symudedd | Mynediad Gweledol | Hynt | Perfformiadau Hygyrch | Mynediad Archebu Tocynnau | Cysylltu


Mae Craidd yn gydweithrediad rhwng pump o sefydliadau yng Nghymru, sef Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ei chenhadaeth yw gwella cynrychiolaeth brif ffrwd, ar gyfer a gyda phobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Mae hefyd yn gobeithio creu newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner cysylltiedig, yn ogystal ag o fewn y sector theatr ehangach.

Roedd cam cyntaf y cydweithredu’n cynnwys archwiliad o bob sefydliad, sgyrsiau sector, hyfforddiant helaeth, a diffinio map ffordd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Y mae posib ei gyfieithu o’r Gymraeg i olygu ‘core’ sy’n adlewyrchu uchelgais gwaith y bartneriaeth i fod wrth galon yr holl waith o greu theatr.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am waith Craidd cysylltwch â’r Cyfarwyddwr dros Newid Sara.Beer@craidd.cymru.

Asiantau dros Newid

  • Cathy Piquemal

    Theatr Clwyd
  • Jonny Costen

    Sherman Theatre
  • Bridie Doyle-Roberts

  • Angharad Tudor-Price

  • Nikki Hill

    Pontio

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Cliciwch yma i anfon e-bost neu rhowch alwad ffôn i'n tîm gwerthu.