Codi’r To

Ailddatblygu Theatr Clwyd

Gyda’ch cefnogaeth chi gyda’n gilydd gallwn lwyfannu’r 40 mlynedd nesaf

O dan arweiniad y Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford a’r Cyfarwyddwr Artistig newydd Kate Wasserberg rydym yn gweithio gyda’r penseiri nodedig Haworth Tompkins i ailddatblygu Theatr Clwyd.

Rydym yn sicrhau cartref i gymunedau sy'n wyrdd ac yn gynaliadwy, gyda llefydd iechyd a lles addas i'r pwrpas, adeilad sy'n cefnogi ein gwaith hanfodol gydag ysgolion a'n cymuned, gan ddiogelu profiadau diwylliannol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a'r dyfodol.



Rydym yn parhau AR AGOR drwy gydol y gwaith adeiladu!

Byddwn yn cyflwyno rhaglen lawn o'n safle dros dro i'r dde o'n hadeilad. Rydym wedi adeiladu bar anhygoel ynghyd â chyfleusterau toiled o'r enw 'Y Pentref' sydd yr un mor gyfforddus (os nad yn fwy felly!) â'n hadeilad gwreiddiol. Mae sioeau’n cael eu cynnal yn “The Mix”, lleoliad dros dro sydd wedi'i leoli ochr yn ochr â phrif adeilad Theatr Clwyd, yn ystod y prosiect adeiladu.


Disgwyliwn i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn 2025.



Image: Theatr Clwyd's production of Home, I'm Darling, by Manuel Harlan


All redevelopment images by Haworth Tompkins