Derbyniadau Priodas
Archebion ar agor nawr ar gyfer 2026/27

Rhannwch fwyd a diodydd gyda ffrindiau a theulu, cyn dathlu tan yr oriau mân yng nghalon Theatr Clwyd.
Lle cynnes a chyfeillgar ar gyfer derbyniadau priodas yng nghalon Theatr Clwyd. Rhannwch fwyd a diodydd gyda ffrindiau a theulu, dawnsio drwy'r nos gyda DJ neu fand ar ein llawr dawnsio mawr, a dathlu tan oriau mân y bore gyda'n bar hwyr.
Mae ein hystafelloedd digwyddiadau newydd eu hadnewyddu’n cynnig canfas gwag i chi greu eich dathliad arbennig, gyda lle i hyd at 100 o westeion. Rydyn ni mewn lleoliad cyfleus yn agos at swyddfa gofrestru'r Wyddgrug a chanol y dref, gyda pharcio ar y safle i'ch gwesteion. Gyda thîm arbenigol i gefnogi eich digwyddiad ac arlwyo gan y cogydd campus Bryn Williams a'n bwyty sydd wedi cael sylw yn y Canllaw Michelin, Bryn Williams yn Theatr Clwyd, byddwn yn eich helpu i gael diwrnod gwerth chweil.
Cysylltwch heddiw i drefnu taith o amgylch ein cyfleusterau ac i gael pris heb unrhyw ymrwymiad.

Bwyd a Chyfeillgarwch mewn Cytgord
Ar gyfer eich profiad bwyta, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau wedi'u teilwra i'ch chwaeth.
Dewiswch o blatiau bach hyfryd am bryd mwy hamddenol a rhyngweithiol, neu fwynhau pryd tri chwrs soffistigedig wedi'i greu gan y cogydd enwog Bryn Williams. Am brofiad gwirioneddol eithriadol, dewiswch fwydlen flasu, sy'n arddangos y cynhwysion tymhorol gorau a'i greadigrwydd yn y gegin.
Bydd Bryn Williams, sy'n adnabyddus am ei sgil eithriadol a'i sylw i fanylion, yn sicrhau bod pob pryd yn gampwaith, gan greu profiad bwyta cofiadwy sy'n ategu eich dathliad arbennig.
Beth bynnag fyddwch chi’n ei ddewis, bydd eich gwesteion wrth eu bodd.
Ein Tîm Ni Yma i Helpu
Byddwn yn gofalu am bob manylyn wrth gynllunio eich priodas, o'r cysyniad cychwynnol i'r ffarwel olaf. Bydd ein tîm yn eich tywys chi drwy ddewis lleoliad, arlwyo, addurno, ac amserlennu, gan sicrhau profiad hynod hwylus.
Ymlaciwch a mwynhau eich diwrnod arbennig, gan wybod bod popeth mewn dwylo arbenigol.
Cwblhewch ein ffurflen ymholiad am ddyfyn-bris pwrpasol ac am ragor o wybodaeth. Fel dewis arall, cysylltwch â'n tîm ni ar events@theatrclwyd.com.





