Mae Theatr Clwyd wedi ei sefydlu ar ben bryn yn edrych i lawr ar dref farchnad hyfryd Yr Wyddgrug.

Mae arwyddion brown a gwyn amlwg ar y ffyrdd o amgylch y theatr sy'n ei gwneud hi’n hawdd iawn dod o hyd i ni – ond, byddem yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau canlynol gan fod trefn rhai ffyrdd wedi newid yn ddiweddar.

Teithio a Pharcio

Mae gyrru i Theatr Clwyd wedi newid ychydig yn dilyn ein hailddatblygiad, gyda'r ffordd o flaen y theatr bellach wedi cau am byth.

• Gyrru atom ni drwy Raikes Lane: Wrth i chi yrru i fyny Raikes Lane trowch i'r dde heibio hen adeilad Neuadd y Sir wrth i chi yrru i fyny'r bryn (tuag at y Swyddfa Gofrestru), bydd hyn yn mynd â chi heibio blaen y Llys Sirol (os byddwch chi'n cyrraedd Tafarn y Glasfryn rydych chi wedi mynd yn rhy bell). Yna byddwch yn troi i'r chwith wrth y gylchfan ger Neuadd y Sir i fynd i fyny'r bryn tuag at y theatr a'r meysydd parcio. • Gyrru atom ni ar hyd yr A5119: Mae troad i fyny at y theatr ar y ffordd rhwng yr Wyddgrug a Sychdyn/Llaneurgain (A5119) – ewch i ben y bryn o'r briffordd ac yna i lawr i'r meysydd parcio gyda'r theatr ar eich ochr chwith.

• Erbyn hyn, mae gan y maes parcio aml-lawr tanddaearol lwybr gwastad i gerddwyr wrth fynedfa'r maes parcio, ac mae grisiau canolog y maes parcio wedi'u hadnewyddu. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am barcio.

• Mae mannau parcio i bobl anabl ar gael yn y maes parcio tanddaearol neu haenog.

• Mae man gollwng hygyrch a lle i droi o flaen y theatr. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â hyn cysylltwch â'r Tîm yn ein Swyddfa Docynnau.

I ddod o hyd i ni ar Google Maps cliciwch yma (ond byddem yn argymell cyrraedd o'r A5119 yn hytrach na Raikes Lane)!


Ein cyfeiriad:

Theatr Clwyd, Raikes Lane, Yr Wyddgrug, CH7 1YA


Amseroedd Agor yr Adeilad

Dros dro, mae ein hadeilad ar agor 2.5 awr cyn amser dechrau'r perfformiad ac rydyn ni’n argymell eich bod yn cyrraedd o leiaf 30 munud cyn i'r sioe ddechrau er mwyn i chi allu ymlacio cyn y sioe.

Cliciwch yma i weld beth sydd ymlaen neu ffoniwch 01352 344101 am fwy o fanylion.


Ar y ffordd

O arfordir Gogledd Cymru, ewch ar yr A55 tuag at Gaer, cymryd yr allanfa sydd wedi ei nodi Y Fflint a throi i’r dde tuag at Yr Wyddgrug. Ewch trwy bentrefi Northop a Sychdyn, ac edrych am dro i’r dde, gydag arwydd clir, i’r theatr!

O Gaer neu Ogledd-Gorllewin Lloegr
, dilynwch arwyddion i Ogledd Cymru a Chonwy. O’r A55, ewch i’r chwith ar yr A494 ar gyfer Yr Wyddgrug. Wrth i chi ddynesu at y dref, mae arwyddion clir i’r theatr ar y dde.

O gyfeiriadau eraill
, ewch trwy’r Wyddgrug a chymryd yr A494, ffordd Y Fferi Isaf. Mae arwyddion i’r theatr ar y chwith wedi i chi adael y dref.