Ein Heffaith

Deall popeth am Theatr Clwyd?
Yn Theatr Clwyd, ein cenhadaeth ni yw gwneud y byd yn lle hapusach un ennyd ar y tro.
Rydym yn gwneud hyn, nid dim ond drwy'r sioeau o safon byd ar ein llwyfannau, ond drwy gefnogi ein cymunedau a'n hartistiaid. Bob wythnos rydym yn cynnal 25 o raglenni creadigol gwahanol sy'n cyrraedd 500 o bobl rhwng 4 a 98 oed yn ogystal รข chynnal sesiynau rhwydweithio a datblygu ar gyfer artistiaid lleol. Mae ein cyrhaeddiad yn ymestyn nid yn unig ar draws ein sir enedigol, Sir y Fflint, ond hefyd mae'n ymestyn i Ogledd Ddwyrain Cymru gan gynnwys Wrecsam, a thros y ffin i Sir Caer.
Rydym wedi cefnogi:
- 96,568 o fynychwyr ar gyfer Gweithgareddau Cymunedol
- 4,947 o docynnau am ddim i Drigolion Sir y Fflint
- 5,513 o blant yn cymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu creadigol bob blwyddyn
- 10 hwb cymunedol ledled Sir y Fflint rydym yn eu cefnogi gydag adnoddau i alluogi darpariaeth celfyddydau
- 181 o fwrsarรฏau am ddim sy'n rhoi mynediad 100% am ddim i weithdai celfyddydau a theatr
- 75 o bobl ifanc fregus sydd ddim mewn addysg wedi cael eu cefnogi i ddod o hyd i lwybr newydd
ac mae ein Hymddiriedolaeth Cerddoriaeth yn Theatr Clwyd wedi cyflawniโr canlynol:
- Derbyniodd 67 o ysgolion wersi dosbarth am ddim
- Derbyniodd 1,900 o blant y gwersi dosbarth am ddim hynny
- Lleihauโr rhestr aros am wersi cerddoriaeth mewn ysgolion 38%
Donation
Ein prosiectau

Mae Pลตer ar gyfer pobl ifanc 13 i 16 oed sydd ddim mewn addysg ar hyn o bryd nac yn cael eu haddysgu gartref nac yn mynychu UCD. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol arweiniol, gweithwyr cymdeithasol, Ysgolion Uwchradd Sir y Fflint, UCD a'r Tรฎm Cynnydd. Drwy sesiynau creadigol mae'r grwpiau'n dysgu hyder a sgiliau bywyd ac yn gwneud ffrindiau newydd. Rydym hefyd wedi dod yn sefydliad Achrededig Gwobr y Celfyddydau yn ddiweddar a bydd criw presennol Pลตer yn derbyn Gwobr Efydd y Celfyddydau.

Mae grwpiau Fuse ar gyfer unigolion sydd ag anabledd neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac rydym yn cynnal gwahanol grwpiau yn dibynnu ar yr ystod oedran, gan gynnwys grลตp oedolion. Mae'r grwpiau'n edrych ar lawer o brofiadau gwahanol - o actio a dawnsio i gerddoriaeth a gwaith sgript, a mynd y tu รดl i'r llenni hyd yn oed. Rydym yn cynnig bwrsarรฏau i'r grwpiau hyn i sicrhau bod pawb yn gallu dod iddyn nhw, beth bynnag yw incwm y cartref.

Mae Celfyddydau o'r Gadair Freichiau yn rhaglen atgyfeirio drwy'r Gwasanaeth Cof ar gyfer pobl sy'n byw gyda cholled cof cynnar, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Mae'r sesiynau'n cynnwys archwilio celfyddydau sy'n seiliedig ar y theatr, barddoniaeth, cerddoriaeth, symudiad a chreadigrwydd mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.

Maeโr Hybiau Haf yn rhaglen a gynhelir gennym mewn partneriaeth รข Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint lle rydym yn darparu sesiynau creadigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Darperir pryd iach a chludiant lle bo angen i bobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio at y rhaglen hon.

Chwech Sir y Fflint
Yn 2021, fe wnaethom nodi chwe ardal yn Sir y Fflint a oedd yn uchel ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn ein hardal uniongyrchol a helpu i sefydlu 10 hwb cymunedol. Rydym yn cefnogi'r ardaloedd hyn gydag adnoddau i alluogi darpariaeth gelfyddydol i bobl na fyddaiโn cael y cyfle yma fel arall.

Cyfiawnder
Rydym yn gweithio'n rhagweithiol ym maes cyfiawnder cymdeithasol, ar รดl cyflwyno rhaglenni arloesol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd gyda phartneriaid allanol yn y gorffennol, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymunedol Gogledd Cymru (PACT). Ar hyn o bryd rydym yn ailddatblygu'r rhaglenni hyn i sicrhau ein bod yn cyrraedd y plant mwyaf agored i niwed cyn gynted รข phosibl o ran ymyrraeth.
Dyma ychydig o enghreifftiau o'r prosiectau a'r grwpiau rydym yn eu cynnal. Maeโr prosiectau eraill yn cynnwys Dawns ar gyfer Clefyd Parkinson, Our House / Tลท Ni (grลตp ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+), ac rydym yn cynnig bwrsarรฏau ar gyfer unrhyw un o'n gweithdai y mae angen talu amdanyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'r ffyrdd o gefnogi, ewch i'n tudalen cefnogi ni neu os ydych chi'n Ymddiriedolaeth neu'n Sefydliad Elusennol ac yn awyddus i gyllido ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs. โโCysylltwch รข Sarah Jones, ein Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, ar sarah.jones@theatrclwyd.com

Cyfrannu heddiw!
Donation
Fel elusen gofrestredig, sef Theatr Clwyd Trust (Elusen Gofrestredig Rhif 1189857), gallwn hawlio Rhodd Cymorth ar eich rhodd. Mae Rhodd Cymorth yn ffordd wych o allu rhoi ychydig mwy heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Os ydych chiโn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth, gallwn hawlio 25% gan CThEM ar ben eich rhodd. Bydd eich rhodd o ยฃ10 i ni yn werth ยฃ12.50!