Ystafell Foyle: Cynllun Agored Llawn

Capasiti

• Sefyll: hyd at 500

• Arddull Theatr: 230

• Arddull Cabaret: 140

Cynllun
Gofod hardd a chwbl hyblyg sy'n addas ar gyfer theatr, cabaret, gwledd, ystafell ddosbarth, amrywiadau ystafell fwrdd, a gosodiadau arddangosfeydd. Mae posib rhannu'r ystafell yn ddwy ran i greu gofod grŵp neu ail ofod. Amgylchedd cwbl hunangynhwysol gyda chyfleusterau cynhwysfawr wedi'u cynllunio i gefnogi digwyddiad proffesiynol llyfn.

Gwella’r Ystafell
Arlwyo eithriadol sy'n ategu eich lleoliad. Boed yn ddiod neu baned hyfryd, bwffe wedi'i gyflwyno'n hardd, neu bryd bwyd wrth y bwrdd, mae ein dewisiadau pwrpasol ni'n ychwanegu safon at eich digwyddiad ac yn creu argraff barhaol. Mae posib trefnu bar pwrpasol yn yr ystafell, gan ychwanegu cyffyrddiad o soffistigedigrwydd a chyfleustra i chi a'ch gwesteion.

Lleoliad
Wedi'i lleoli'n gyfleus ar y llawr gwaelod, gan gynnig mynediad hawdd i bob gwestai.

Addasrwydd
Mae'r ystafell wedi'i chynllunio i gefnogi amcanion busnes, boed yn cynnal cynadleddau ffurfiol, lansiadau cynnyrch a seremonïau gwobrwyo, neu'n creu profiadau meithrin tîm pleserus sy'n hybu morâl ymhlith pethau eraill.


Ystafell Foyle 1: Cynllun Wedi'i Wahanu

Capasiti

  • Sefyll: hyd at 300
  • Arddull Theatr: 150
  • Arddull Cabaret: 80

Cynllun
Addas ar gyfer theatr, cabaret, gwledd, ystafell ddosbarth, amrywiadau ystafell fwrdd, yn ogystal â gosodiadau arddangosfeydd. Mae'r ystafell yn hunangynhwysol ac yn cynnwys rhaniad wal i gau’r sain ar gyfer gwahanu acwstig hyblyg.

Gwella’r Ystafell
Mae bar yn yr ystafell ynghyd â darpariaethau arlwyo yn gwella awyrgylch yr ystafell a phrofiad y gwesteion, gyda’r ddarpariaeth gan Bryn Williams yn Theatr Clwyd.

Lleoliad
Fel rhan o hyblygrwydd Ystafell Foyle, mae Ystafell Foyle 1 yn un o ddau ofod sy’n cael eu ffurfio wrth osod rhaniad yn y brif ystafell.

Addasrwydd
Pan gaiff ei rhannu, mae hanner cyntaf yr ystafell yn darparu gofod pwrpasol ar gyfer cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar fusnes, cynadleddau, seremonïau gwobrwyo, a gofod perffaith ar gyfer cynnal digwyddiadau preifat ac achlysuron arbennig.


Ystafell Foyle 2: Cynllun Wedi'i Wahanu

Capasiti

  • Sefyll: hyd at 200
  • Arddull Theatr: 80
  • Arddull Cabaret: 60

Cynllun
Addas ar gyfer theatr, cabaret, gwledd, ystafell ddosbarth ac amrywiadau ystafell fwrdd. Dyma ail ardal yr ystafell, wedi'i gwahanu gan y wal rhaniad sy’n cau’r sain ar gyfer defnydd hyblyg.

Gwella’r Ystafell
Mae bar yn yr ystafell ynghyd â darpariaethau arlwyo yn gwella awyrgylch yr ystafell a phrofiad y gwesteion, gyda’r ddarpariaeth gan Bryn Williams yn Theatr Clwyd.

Lleoliad
Mae Ystafell Foyle 2 yn ffurfio hanner arall Ystafell Foyle pan gaiff y gofod ei rannu

Addasrwydd
Mae'r ail adran yma wedi'i rhannu’n berffaith ar gyfer digwyddiadau corfforaethol llai, o gyfarfodydd a gweithdai i sesiynau meithrin tîm, yn ogystal â chyfarfodydd mwy personol.


Manylebau’r Ystafelloedd

Theatr / Cynadleddau, Ystafell Bwrdd, Lletygarwch, Cabaret, Gwledd


Cysylltwch.

Mae ein tîm ni yma i helpu i gefnogi eich digwyddiad - o'r syniad cychwynnol i'r eiliad olaf - cysylltwch â ni i gael dyfyn-bris pwrpasol ac am ragor o wybodaeth.

Fel arall, cysylltwch â'n tîm arbenigol ni yn events@theatrclwyd.com | 01352 344101