Mae’r Cogydd o fri o Gymru, Bryn Williams, yn dod â’i angerdd am gynnyrch lleol tymhorol, cynaliadwy i’w fwyty newydd yng nghalon Theatr Clwyd. O frecwastau hamddenol, ciniawau a the prynhawn i swperau o safon gyda'r nos - gwnewch eich ymweliad yn brofiad i'w gofio.

Mae Bryn Williams yn Theatr Clwyd wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd yn berffaith ag adeilad eiconig Theatr Clwyd ar ei newydd wedd.


Bwydlenni Enghreifftiol

Syniad o’r bwydlenni ydi’r rhain ac mae posib iddyn nhw i gyd newid.


Am Bryn Williams

Yn hanu o ychydig filltiroedd o galon Theatr Clwyd, mae Bryn Williams, a aned yn Ninbych, yn Gogydd o fri o Gymru sydd wedi gwneud ei farc yn y byd coginio.

Dysgodd Bryn i werthfawrogi bwyd a'i darddiad o oedran cynnar. Wedi’i eni i deulu ffermio, datblygodd barch at fwyd wrth dyfu llysiau, pysgota a rheoli adar hela ar fferm ei ewythr.

Mae wedi cael ei gyflogi yn rhai o geginau mwyaf mawreddog Llundain gan weithio o dan Marco Pierre White yn The Criterion, Michel Roux yn Le Gavroche, ac fel uwch gogydd sous yn The Orrery. Bryn oedd perchennog Odette’s yn Primrose Hill am 16 mlynedd nes iddo werthu’r bwyty am borfeydd newydd yn 2024.

Mae Bryn hefyd ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, Bwyty, Caffi a Bar ar lan y môr ar Arfordir Gogledd Cymru. Agorodd ei drydydd bwyty yn 2020 yng ngwesty ‘The Cambrian’ yn Alpau syfrdanol y Swistir. Y lleoliad diweddaraf yw ‘The Touring Club’ ym Mhenarth, Caerdydd.

Mae Porth Eirias a'r Touring Club wedi derbyn gwobr fawreddog Michelin Bib Gourmand.

Mae Bryn yn hynod gyffrous am gael y cyfle i ddod â’i greadigrwydd a’i fwydlenni wedi’u creu’n fedrus i Theatr Clwyd lle mae natur dymhorol, creadigrwydd, cynaliadwyedd, ac angerdd dros ddefnyddio cynnyrch lleol a hyrwyddo’r pantri amrywiol ac o safon sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig yn elfennau allweddol o’r ffordd mae Bryn yn cyflwyno ei fwyd.


Cysylltu â Ni.

Mae ein tîm ni yma i helpu i gefnogi eich digwyddiad - o'r syniad cychwynnol i'r diweddglo mawr. Cwblhewch ffurflen ymholiadau am ddyfyn-bris pwrpasol ac am fwy o wybodaeth.

Fel arall, cysylltwch â'n tîm arbenigol ni ar events@theatrclwyd.com | 01352 344101.