Mae Lyan Packaging yn buddsoddi yn y gymuned leol drwy gefnogi cynllun bwrsari yn Theatr Clwyd
See dates and times 22 Rhag 2022
News Story
Yn gynharach eleni cyflwynodd Theatr Clwyd gynllun bwrsari, gan sicrhau cyfleoedd i bawb.

Fel canolbwynt diwylliannol yng Ngogledd Cymru, mae Theatr Clwyd yn creu prosiectau arobryn syโn gweithio ledled y gymuned, gan ddarparu gweithdai a phrosiectau wythnosol ar draws sawl ffurf ar y celfyddydau, gan gynnwys theatr, cerddoriaeth, celf weledol, ysgrifennu creadigol a dawns. Mae'r sesiynau hyn yn annog pobl i ddod o hyd i'w llais a datblygu eu potensial creadigol.
Mae'r cynllun bwrsari yn sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i bobl fynychu'r sesiynau hyn. Mae pob bwrsari yn bwrpasol iโr unigolyn a gallai gynnwys cyllido llefydd mewn prosiect, darparu cludiant i ac o sesiynau, bwyd i berson ifanc syโn mynychu sesiynau dydd neu greu โllwybrau cam nesafโ unwaith y bydd unigolion wedi cwblhau prosiect. Rhoddir bwrsarรฏau ar sail menter ymddiriedaeth a gofynnir dim cwestiynau ychwanegol ac mae hyblygrwydd y rhaglen yn caniatรกu ymateb cyflym lle mae angen yr help fwyaf.
Mae Lyan Packaging yn un o brif gyflenwyr datrysiadau pecynnu pwrpasol y DU yn Wrecsam ac mae wedi bod yn gefnogwyr ers amser maith iโr gwaith cymunedol yn Theatr Clwyd. Maeโr bartneriaeth wedi tyfu yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwn maent wedi cefnogi ystod o brosiectau cymunedol, gan gynnwys gweithdai ar gyfer y rhai sydd a cholled cof cynnar aโu teulu aโu ffrindiau (Caffi Celfyddydauโr Cof) ac ar gyfer pobl ifanc ag anghenion ychwanegol (Fuse). Eleni, yn ogystal รข chefnogaeth barhaus ar gyfer y gweithgarwch presennol, mae Lyan Packaging wedi cynyddu eu hymrwymiad i alluogi cynllun bwrsari newydd Theatr Clwyd.
Maeโr cyllid amhrisiadwy yma wedi golygu bod pobl a fyddai fel arall wediโu heithrio o gyfleoedd Theatr Clwyd yn gallu cymryd rhan. Ers lansioโr rhaglen fwrsari yn ffurfiol ym mis Medi, mae Theatr Clwyd wedi darparu cyllid ar gyfer cludiant i 15 o bobl a bwrsarรฏau i 42 o bobl. Mae cefnogaeth Lyan Packaging wedi cyfrannu at hyn ynghyd รข chyllidwyr a chefnogwyr eraill.
0 Stars
Roedd nawdd Theatr Clwyd yn amlwg i ni fel cyfle i gefnogi achos teilwng yn ein cymuned leol ac rydyn niโn falch iawn o allu darparu cefnogaeth barhaus. Fel noddwr, maeโn bleser gweld effaith y gwahanol brosiectau, a gweld yn union beth mae ein nawdd niโn helpu tuag ato.Alex Pawley, Lyan Packaging, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata
0 Stars
Yn Theatr Clwyd rydyn niโn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd i bawb a byth eisiau i neb gael ei eithrio. Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lyan Packaging gan ei fod yn galluogi i ni barhau i gynnig a datblygu ein cynllun bwrsari.Gwennan Mair, Theatr Clwyd, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol
0 Stars
Mae Lyan Packaging, ochr yn ochr รข grลตp bach o gefnogwyr corfforaethol yn Theatr Clwyd, yn paratoiโr ffordd i ddarparu cymorth ariannol, dyngarol, allweddol i Theatr Clwyd. Mae hon yn llinell incwm gymharol newydd i'r elusen, ond yn gynnar yn y broses fe wnaeth Lyan Packaging gydnabod pwysigrwydd y gwaith rydyn niโn ei wneud yn y gymuned. Gydaโu hanogaeth nhw, rydyn niโn gweld mwy o ddiddordeb a chymorth ariannol wrth i ni ymestyn y cyfleoedd sydd ar gael iโn cymuned fusnes leol. Rydyn niโn hynod ddiolchgar i Lyan Packaging am eu hymrwymiad o'r newydd, rydyn niโn gobeithio y bydd ein perthynas niโn parhau yn y dyfodol rhagweladwy!Sarah Hutchins, Theatr Clwyd, Rheolwr Datblygu
Mae cefnogaeth barhaus Lyan Packaging wedi cael ei gydnabod gan Celfyddydau a Busnes Cymru ac wedi cael cymorth ychwanegol gan eu cynllun CultureStep.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darparu cefnogaeth gorfforaethol i Theatr Clwyd, cysylltwch รข Rheolwr Datblygu Theatr Clwyd sarah.hutchins@theatrclwyd.com neu ewch i yma