News Story
Beth am i ni siarad am gerddoriaeth, ambell gyfrinach fewnol, a llawer iawn o roc a rôl! 🎸
Fe gawson ni sgwrs hefo Daniel Lloyd i gael y sgŵps mewnol am y gerddoriaeth sy'n gwneud ein Panto Roc a Rôl ni mor arbennig. Hefyd, mae gennym ni restr chwarae Spotify sy'n llawn ffefrynnau o Bantos y gorffennol, a blas ar ambell un o ganeuon Pinocchio. Trowch y sain i fyny, dewch ar daith i lawr lôn atgofion, a gweld allwch chi ddyfalu pa ganeuon fydd yn rocio ar ein llwyfan ni eleni!

Pam mae'r gerddoriaeth mor bwysig ym Mhantos Roc a Rôl Theatr Clwyd?
Mae cerddoriaeth yn gallu gwneud cymaint... creu naws, egni a bywiogrwydd ar unwaith, gosod y naws neu fynegi torcalon cymeriad. Mae'n siarad hefo pob un ohonon ni mewn ffordd mor brydferth, haniaethol ac emosiynol ac mae'n eithriadol ddefnyddiol o ran y plot a'r stori. Yr hyn sy'n gymaint o hwyl am ganeuon roc adnabyddus mewn panto ydi bod posib eu rhoi nhw mewn cyd-destun newydd i fod yn addas i'r stori. Er enghraifft, mae’r gân Firework yn gallu adlewyrchu dyhead Cinderella i dorri'n rhydd oddi wrth ei chwiorydd cas a bod yn wirioneddol rydd... mae Should I Stay or Should I Go
yn gallu ein harwain ni at drobwynt yn stori Pinocchio, gyda’i ddewis yn arwain at ganlyniadau enfawr. Ac wrth gwrs, mae'r encore yn dod â'r gynulleidfa gyfan a'r cwmni at ei gilydd ar gyfer parti enfawr! Mae’n gallu gwneud i ni wenu, dawnsio a thorri ein calonnau. Rydw i wrth fy modd!
Beth sy'n rhan o'r broses o ddewis caneuon ar gyfer Panto Roc a Rôl?
Maen nhw’n cael eu hystyried yn ofalus iawn. Yn aml, rydyn ni’n edrych ar ganeuon sydd â geiriau sy'n berthnasol i'r stori neu'r cymeriad (mae angen i gân ar gyfer cymeriad drwg fod yn ddrwg). Ond rydyn ni hefyd yn ystyried amrywiaeth o genres a chyfnodau gwahanol, er mwyn sicrhau bod rhywbeth i bawb uniaethu ag o. Weithiau, mae cân boblogaidd fodern yn dod i'r meddwl ac yn amhosib ei hanwybyddu.
Beth sydd angen i gân pantomeim wych ei wneud, yn gerddorol ac yn theatrig?
Cyffroi, ffitio, creu rhythm, ac ennill ei lle. Does dim saib mewn panto a does dim lle i unrhyw beth sydd ddim yn taro deuddeg. Mae’r tempo anghywir ar yr eiliad anghywir yn gallu lladd llif a deinameg y sioe yn gyflym. Mae popeth yn cael ei ystyried yn fanwl iawn ac wedyn yn cael byw ac anadlu o’r newydd bob tro.

Sut ydych chi’n gwneud yn siŵr bod y gerddoriaeth yn teimlo’n ffres bob blwyddyn, gan ddal i roi’r caneuon mae’r gynulleidfa wedi dod i’w disgwyl ynddyn nhw?
Wel… maen nhw’n cael eu chwarae’n fyw gan ein cast anhygoel ni o actor-gerddorion. Mae’n rhywbeth byw sy’n anadlu ac os ydyn ni wedi creu’r cyfan yn iawn, mae’r perfformiadau’n tanio bob tro ac yn cael cynulleidfa newydd ym mhob sioe. Mae’n cadw’i hun yn ffres – mae’n mynnu hynny.
Y gân fwyaf cofiadwy sydd wedi cael ei defnyddio yn y Panto?
Mae gen i deimlad ei bod hi’n ymddangos yn Pinocchio, ond dydw i ddim yn mynd i ddatgelu hynny eto...
Spotify playlist
Pantos Roc a Rôl Theatr Clwyd: Y Trac Sain
I ddathlu’r gerddoriaeth sy’n gwneud ein Panto Roc a Rôl ni mor arbennig, rydyn ni wedi creu rhestr chwarae sy’n cynnwys rhai o’r caneuon mwyaf, a mwyaf cofiadwy, o gynyrchiadau’r gorffennol, ochr yn ochr â detholiad o draciau sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Pinocchio eleni. Mae’n gyfle i gofio am bantos y gorffennol a dyfalu pa ganeuon fydd yn ymddangos yn y sioe eleni!



