Cefnogaeth Gorfforaethol
Rydym yn gyffrous am gynnig rhai buddion anhygoel a fydd yn diddanu eich cleientiaid, darpar gleientiaid a'ch staff ar garreg eich drws.
Rydym yn cynnig llety o safon uchel, parcio fforddiadwy i westeion ac aelod ymroddedig o staff i drefnu manylion eich digwyddiad. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyrraedd ein cynulleidfa drwy hyrwyddo eich brand yn ein llyfrynnau a’n rhaglenni.
Mae ein llyfryn noddi isod yn cynnwys 3 haen o aelodaeth a gobeithio bod rhywbeth yma i chi a’ch cwmni!
Llyfryn Aelodaeth Corfforaethol
I ddathlu’r bartneriaeth newydd gyffrous gyda Bryn Williams, rydym yn cynnig cyfnod aelodaeth estynedig o 18 mis ar gyfer adnewyddiadau a chofrestriadau newydd. Byddwch yn rhan o’r cyfnod cyffrous hwn wrth i ni edrych tuag at ailagor adeilad Theatr Clwyd yn haf 2025.
Ymunwch â'n Digwyddiadau Rhwydweithio Brecwast Busnes AM DDIM
Brecwast Busnes Nesaf Dydd Mercher 2 Hydref 2024 yn Neuadd William Aston, Wrecsam
I glywed am ein holl ddiweddariadau, neu i ymuno â'n rhestr bostio corfforaethol, e-bostiwch janine.dwan@theatclwyd.com
Astudiaethau Achos Aelodau
Cysylltwch
I gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth gorfforaethol, cysylltwch â:
Janine Dwan, Rheolwr Datblygu Corfforaethol
janine.dwan@theatrclwyd.com 01352 406916
Drwy weithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, rydych chi wedi ychwanegu gwerth at eich effaith ar draws y rhanbarth drwy gadarnhau eich gwerthoedd allweddol, gan wybod mai ein cydwybod cymdeithasol sy’n sail i bopeth rydym yn ei wneud. Mae cysylltu â ni yn darparu llwyfan deinamig i’ch negeseuon fynd ymhellach fyth yng Ngogledd Cymru a thu hwnt i’r ffin.Zoe Crick-Tucker, Cyfarwyddwr yr Ymgyrch Gyfalaf
Diolch i’n holl gefnogwyr ni:
Mae Thalamic yn gweithio gyda dyngarwyr, sefydliadau, corfforaethau a'r byd academaidd i greu partneriaethau strategol.
Gwesty 3 seren AA sy’n cael ei weithredu yn annibynnol yn yr Wyddgrug ac yn agos at Theatr Clwyd. Mae ystafelloedd digwyddiadau a gofod digwyddiadau yn gwella darpariaeth Beaufort Park.
"Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig i bob busnes helpu a chefnogi ei gilydd, yn enwedig ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â'n perthynas waith hir. Pob lwc i'r dyfodol a gyda'r gwaith adnewyddu." Mark Small, Rheolwr Cyffredinol Gwesty Beaufort Park
Cwmni o gyfreithwyr yw Aaron & Partners gyda swyddfeydd yng Nghaer, yr Amwythig, Manceinion ac ar Benrhyn Cilgwri.
“Fe fydd hwn wir yn gyrchfan rhagorol yng Ngogledd Cymru, nid yn unig ar gyfer theatr flaengar a thraddodiadol, ond ar gyfer lletygarwch teuluol a chorfforaethol. Mae’n gyflogwr allweddol ac yn ganolbwynt diwylliannol yn yr ardal… rydw i mor falch o Aaron & Partners LLP fel un o noddwyr corfforaethol cyntaf TheatrClwyd.” Jan Chillery, Partner, Aaron & Partners
Mae Bad Wolf yn un o’r cwmnïau cynhyrchu dramâu o’r radd flaenaf yn y DU, gyda’i bencadlys yng Nghaerdydd. Fel cynhyrchwyr His Dark Materials, Industry, I Hate Suzie, A Discovery of Witches ac yn awr Doctor Who, mae Bad Wolf wedi ymrwymo i ddiwydiant cwbl gynhwysol ac yn annog pobl o bob cefndir i ystyried swyddi yn y diwydiant teledu drwy eu gwaith gyda Cynghrair Sgrin Cymru sy’n cynnig gweithdai, ymweliadau â stiwdios, cynlluniau hyfforddi a llawer mwy.
Mae Meithrinfa Ddydd Buttercups yn Feithrinfa Ddydd i Blant sydd wedi’i hen sefydlu ac sy’n cael ei rhedeg gan deulu. Mae wedi’i lleoli mewn lleoliad gwledig hardd ar gyrion yr Wyddgrug. Ers agor yn 2003, rydyn ni wedi bod yn gofalu am fabanod a phlant o dri mis oed nes iddynt ddechrau yn yr ysgol. Rydyn ni'n falch o’r cyfraniad rydyn ni wedi’i wneud i’n cymuned leol ers dros 20 mlynedd ac yn falch iawn o allu cefnogi busnes lleol arall drwy ein nawdd i Theatr Clwyd.
buttercupsdaynursery.com
http://www.holidayinnchesterwe...
Mae’r Holiday Inn A55 Gorllewin Caer yn rhan o frand Holiday Inn (IHG) Worldwide a ni yw’r unig westy IHG yng Ngogledd Cymru, felly mae gennych chi’r sicrwydd o wybod am safon yr ansawdd i’w ddisgwyl. Byddwch hefyd yn derbyn croeso cyfeillgar a gofal o ansawdd uchel yn ein gwesty gan ein fod yn eiddo preifat ac yn cael ei reoli gan dair cenhedlaeth o’r un teulu. Rydym yn sicrhau bod ein gwesteion yn mwynhau eu harhosiad ac yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl dro ar ôl tro. Bydd ein sylw i fanylion yn gwneud eich arhosiad yn un pleserus iawn
Dylunio a gweithgynhyrchu peiriannau ar gyfer argraffu caniau diodydd.
Mae Wind2 Ltd yn ddatblygwr ynni gwynt ar y tir arbenigol.
Sefydlwyd y cwmni yn 2016 gan Gerry a Paula Jewson, cyn berchnogion a sylfaenwyr West Coast Energy, a phartneriaid yn RC, dau gwmni sydd wedi datblygu nifer o safleoedd yn y DU yn llwyddiannus.
30 mlynedd o arbenigedd pecynnu, o'r cysyniad dylunio cychwynnol hyd at weithgynhyrchu. Cwmni lleol sy’n buddsoddi mewn cymunedau lleol.
“Roedd nawdd Theatr Clwyd yn unigryw i ni fel cyfle i gefnogi achos teilwng yn ein cymuned leol ac rydyn ni’n falch iawn o allu darparu cefnogaeth barhaus. Fel noddwr, mae’n bleser gweld effaith y gwahanol brosiectau, a gweld yn union beth mae ein nawdd yn helpu tuag ato.” Alex Pawley, Rheolwr Marchnata, Lyan Packaging
Rôl A&B Cymru yw hyrwyddo, galluogi a datblygu partneriaethau rhwng busnes a’r celfyddydau sydd o fudd i’r ddwy ochr. Mae Arts And Business Cymru wedi rhoi hwb i lawer o’n nawdd gan fusnesau eraill drwy eu cynllun CultureStep.
Mae Azets ymhlith y 10 cwmni cyfrifeg a chynghori busnes gorau a’r cynghorydd busnes rhanbarthol mwyaf i BBaChau yn y DU, gan ddarparu gwasanaethau cyfrifo, treth, archwilio, busnes a chynghori yn ddigidol ac wrth eich drws.
Mae eich swyddfa leol yn Nhreffynnon ac yn darparu ar gyfer Gogledd Cymru gyfan a Chaer. Ffoniwch 01352 710216 neu e-bostiwch Holywell.info@azets.co.uk
Cyfryngwyr Arbenigol mewn pob math o yswiriant carafannau a hamdden ar gyfer busnesau ac unigolion.
Gwasanaethau recriwtio lleol - Wedi ein lleoli yng nghalon Gogledd Cymru, gallwn ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth gwych yn gyflym ar gyfer amrywiaeth eang o sectorau.
Rydym yn recriwtio ar gyfer swyddogaethau a swyddi parhaol, dros dro a chontract gyda help ein tîm o recriwtwyr sydd â ffynonellau da.
Rydym yn ymfalchïo mewn chwilio am yr ymgeisydd delfrydol ar gyfer cyflogwyr ar draws Gogledd Cymru ac yn eich rhoi chi mewn cysylltiad ag ymgeiswyr addas dim ots pa swydd rydych yn ei hysbysebu.
DSG yw un o’r cwmnïau cyfrifeg a chynghori annibynnol mwyaf blaenllaw yn y Gogledd Orllewin. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o fusnesau bach, canolig a mawr a chleientiaid preifat, ynghyd â thimau arbenigol sy’n gwasanaethu’r sector nid-er-elw a sawl practis proffesiynol, o gyfreithwyr i feddygon a deintyddion, gan ddarparu datrysiadau wedi’u teilwra am bris teg.
Mae Experience Marketing, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Caroline Sanger-Davies, yn gweithio gyda sefydliadau celfyddydol, diwylliannol, hamdden a thwristiaeth ledled y DU i ddatblygu strategaethau marchnata sy’n cael effaith, gan hybu amlygrwydd brand, effaith ac incwm.
Flintshire Tourism Association
Rydym yn grŵp angerddol o bobl fusnes leol sydd wedi dod at ei gilydd gyda’r nod o godi proffil y rhanbarth a chefnogi, cynrychioli, ac ymgyrchu dros sector twristiaeth a lletygarwch yr ardal.
Drwy i bobl go iawn ddarparu atebion go iawn, mae ein cwsmeriaid a'n hymgeiswyr yn profi partneriaeth recriwtio wirioneddol. Fel darparwr cenedlaethol gyda phresenoldeb lleol, rydyn ni’n falch o ddarparu datrysiadau cyflogaeth moesegol a hyblyg, hyfforddiant achrededig, a datblygu pobl.
Mae Hope Mountain Retreat i’w weld mewn 18 erw o gefn gwlad godidog, wedi’i leoli yn erbyn cefndir trawiadol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r perchnogion Jo a Rob Smith wedi bod yn croesawu gwesteion ers 2007, ac maen nhw’n ymfalchïo’n fawr mewn cynnig rhywbeth sydd ychydig yn wahanol ac yn arbennig.
Insight6 yw’r unig arbenigwyr Profiad Cwsmeriaid (CX) yn y DU ac Iwerddon gyda 25 o arbenigwyr ledled y wlad yn cefnogi mwy na 1000 o gleientiaid. Gyda chanolfan leol yn Sir y Fflint, mae eu gweithgarwch sy’n cael ei sbarduno gan ddata yn arwain at gadw cleientiaid a chyfraddau trosi uwch.
“Rydw i mor gyffrous am fod yn noddi Theatr Clwyd ac am fod yn rhan o’i dyfodol a’i thwf. Rydw i wedi bod yn y gynulleidfa yn Theatr Clwyd gymaint o weithiau ac mae’r ffaith eu bod nhw’n meddwl am eu cynulleidfa wrth wneud newidiadau yn cyd-fynd yn dda â fy ngwerthoedd i a fy musnes" Rhian Anstey, Insight 6, Gogledd Cymru a Chaer
Leonard Curtis, darparwr gwasanaethau proffesiynol blaenllaw gyda 24 o leoliadau ledled y DU.
Yn cefnogi perchnogion busnesau bach a chanolig, eu rhanddeiliaid a chynghorwyr gyda'r materion ariannol a gweithredol a wynebir ym mhob cam o gylch bywyd busnes - gan ddarparu cyngor strategol cadarnhaol ar draws ailstrwythuro, y gyfraith a chyllid.
MORE THAN JUST YOUR ACCOUNTANTS...
Mitchell Charlesworth, Chartered Accountants and Business Advisors, offer a locally based, complete financial solution for businesses and individuals in Chester, Liverpool, Manchester and Widnes. Our large portfolio of services are based on partner-led, personal relationships which ultimately will give you and your company peace of mind and greater profitability.
https://www.parkinsbooth.co.uk
Mae Parkin S Booth yn gwmni lleol, annibynnol o Ymarferyddion Ansolfedd, sy'n cynorthwyo busnesau ac unigolion gyda materion ailstrwythuro ac adfer. Maent yn ymfalchïo mewn cynnig cyngor ymarferol, cydymdeimladol a phwrpasol i berchnogion busnes ac unigolion i helpu i ddatrys eu hanawsterau ariannol neu i adael eu busnes mewn ffordd gost-effeithlon.
We EAT & EXPLORE to create amazing food and drink experiences for YOU.