News Story
Mae premiere byd yr addasiad llwyfan o The Haunting of Hill House gan Shirley Jackson yn dod i Theatr Clwyd y mis yma (13-17 Hydref).
Fe gawson ni sgwrs gyda Sián Howard, wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Theatr Clwyd, i gael gwybod mwy am bopeth sy’n digwydd cyn iddi ddychwelyd i’r Wyddgrug.

Dywedwch wrthyn ni am y sioe; sut brofiad ydi bod yn rhan ohoni?
Mae wedi bod yn hynod gyffrous bod yn rhan o’r addasiad llwyfan newydd sbon yma o nofel Shirley Jackson, The Haunting of Hill House, sy’n dod yn fyw yn hyfryd diolch i’r rhyfeddol Stef Smith. Yr hyn sydd wedi rhoi’r wefr fwyaf i mi ydi’r cydweithredu – rhwng yr awdur, y cyfarwyddwr, y cynhyrchydd, yr actorion a’r holl rymoedd creadigol eraill: y cyfansoddwr, y rhith-artist, yr artist sain, y tîm goleuo, y cynllunydd taflunio... mae cymaint o elfennau’n gweithio gyda’i gilydd i adrodd y stori yma!
Beth allwn ni ei ddisgwyl?
Fe all y gynulleidfa ddisgwyl cael eu dychryn yn llwyr! Ond rydw i hefyd yn meddwl y byddan nhw’n cael eu cyffwrdd yn ddwfn, oherwydd mae themâu pwerus ynddi – ynysu, y dyhead i berthyn, a galar.
Sut ydych chi’n teimlo am ddychwelyd i’r Wyddgrug ac i’n hadeilad newydd ni?
Rydw i wedi cyffroi am ddychwelyd i’r Wyddgrug ac am weld a phrofi’r gwaith adnewyddu gwych sydd wedi digwydd. Rydw i wedi cadw mewn cysylltiad gyda Kate Wasserberg ac eraill, ac wedi siarad gydag actorion wnaeth berfformio yno yn ystod y gwaith adnewyddu, ond dydw i ddim wedi bod yn ôl ers i’r cyfan ddechrau. Fe fydd y diwrnod cyntaf, camu i mewn, yn gwbl anhygoel. Ond fy hoff beth i am y theatr bob amser fydd yr olygfa syfrdanol o hardd!
Beth ydi eich hoff atgof chi am berfformio yn Theatr Clwyd?
Rydw i’n meddwl mai fy hoff atgof i o berfformio yn Theatr Clwyd ydi fy sioe gyntaf un i yno, flynyddoedd lawer yn ôl! Fe wnes i chwarae rhan Violet Bradman yng nghynhyrchiad Terry Hands o Blithe Spirit. Roedd y cyfan yn rhan o’r profiad o weithio gyda’r enwog Terry Hands. Fe ddois i i’w adnabod yn dda a dysgu cymaint ganddo. Rydw i’n ei garu ac yn ei golli’n fawr.
Oes gennych chi hoff le i ymlacio yn Sir y Fflint?
Fe gafodd fy nhad ei eni a'i fagu yn ardal Rhuthun, felly does dim un ymweliad â Theatr Clwyd yn teimlo'n gyflawn heb fynd i Ruthun – a cherdded drwy'r farchnad, yr eglwys ac eglwys Llanfair DC a'r tŷ ei hun (Plas Tirion) lle cafodd fy nhad ei eni.
Oes unrhyw eiliadau iasol wedi bod hyd yn hyn wrth ymarfer / ar daith?
Fe hoffwn i allu dweud fy mod i wedi cael profiad iasol wrth ymarfer neu berfformio The Haunting of Hill House, ond dydw i ddim – felly dydw i ddim yn mynd i ddyfeisio un! Yn y pen draw, rydw i'n credu mai beth sydd wir yn bwysig ydi'r awyrgylch rydyn ni'n ei greu ar y llwyfan - dyna ble mae'r hud go iawn.
Mae The Haunting of Hill House yn Theatr Clwyd rhwng 13 a 17 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth, neu i archebu tocynnau, cliciwch yma neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 1352 344101.


