News Story
Y Dirwedd yn Gwreiddio
Mae pobl wedi gofyn i ni sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf pryd fydd y gwaith o dirlunio ein hadeilad ni wedi'i gwblhau a sut bydd yn edrych.
Gyda'n hadeilad ar fin cael ei gwblhau'n llawn gyda'n caffi ni ar y llawr gwaelod (o 24 Awst), ardal chwarae (o ganol mis Medi), ac yn olaf cwblhau'r mân waith trafferthus (yr holl bethau bach y mae'n rhaid eu datrys ar ôl gwaith adeiladu), mae ein sylw ni'n troi at y tu allan.

Yr Heriau
Felly pam nad ydi'r tirlunio allanol wedi cael ei wneud?
Pedwar prif reswm.
I ddechrau, mae cwblhau'r gwaith adeiladu wedi gohirio ychydig o bethau - er enghraifft, roedd raid i ni gloddio rhywfaint i'r dde o'n mynedfa i gael mynediad at bibell - doedd dim synnwyr felly mewn dechrau gweithio yno nes bod hyn wedi'i orffen.
Yn ail, y tymhorau. Mae plannu ar yr amser iawn o'r flwyddyn yn bwysig iawn - gall plannu coeden ar yr union foment iawn fod y gwahaniaeth rhwng y goeden honno'n para am, o bosibl, 100+ o flynyddoedd, yn hytrach na llai na mis!

Yn drydydd, y tywydd. Mae'r tywydd poeth eithriadol wedi golygu nad ydi hi wedi bod yn synhwyrol o reidrwydd i blannu neu hadu ardaloedd. Dydi hynny ddim yn golygu nad oedden ni wedi dechrau arni mewn rhai ardaloedd cyn i'r tywydd poeth daro (efallai y bydd y glaw diweddar yn arwain at rywfaint o flodeuo sydyn) - ond mae wedi arwain at rywfaint o oedi i ni.
Yn olaf, rydyn ni’n gweithio’n bragmatig. Rydyn ni’n plannu planhigion a choed iau, llai aeddfed. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn ein helpu ni i gael y gwerth gorau am arian. Mae'n ardd fydd (fel pob gardd) yn tyfu dros amser yn hytrach na bod wedi’i gorffen ar unwaith (er nad ydi gardd byth wir wedi'i gorffen).

Ein Tîm
We’ve been working with Dan Bristow of Studio Bristow (more?). Dan is a landscape designer who lives on the edge of the Eryri National Park. He’s a bit of a horticultural genius – his practice won a gold medal and ‘Best All About Plants garden’ at RHS Chelsea Flower Show and he’s been featured as one of the 20 most transformative Landscape Designers by Country & Town House.
Dan grew up around plants - his parents both had horticultural backgrounds - but it wasn't until his mid-twenties that a childhood love of growing things resurfaced alongside a passion for design.
Sut bydd yr ardd yn edrych (dros amser)
"Mae’r adeilad mor fawr," meddai Dan. "Mae angen tirwedd i gyd-fynd." Gyda’r theatr ar un adeg yn sefyll yn lletchwith yn erbyn ei hamgylchedd, bydd y dirwedd newydd yn ei gosod mewn ffurfiau organig, twmpathog fydd yn codi i gwrdd â'r bensaernïaeth, gan ffrwydro drwy balmant siecfwrdd wedi'i ysbrydoli gan y gwreiddiol y mae ymwelwyr wedi cerdded ar ei draws ers amser maith. Bydd grid o feini mawr yn creu trefn sy'n gwrthdaro'n ofalus â phatrymau byd natur.

Yn tyfu yn y meini mawr ac o’u hamgylch bydd derw dail enfawr – amrywiad gwydn o Dde Corea, wedi’u dewis gan feddwl am hinsawdd sy'n newid (maen nhw’n eithriadol wydn i wres, oerfel a sychder). Dros y degawd nesaf, byddant yn lapio eu gwreiddiau o amgylch y cerrig islaw. Byddant yn cael eu cyfuno â Phlanwydd Llundain, coed o hinsoddau deheuol cynhesach yn hanesyddol, a fydd yn dod o hyd i gartref newydd yma yng Ngogledd Cymru.
Bydd y gerddi i'r dde o'r brif fynedfa, ar ôl eu gorffen, yn cynnwys delw o Lamhigyn y Dŵr, yr ystlum llyffant o lên gwerin Cymru sy'n poeri dŵr, mewn gardd synhwyraidd, ochr yn ochr â phlanhigion sy'n arogli o fenyn cnau daear a chacennau bach wedi'u pobi’n ffres (llwglyd eto?).

Rydyn ni hefyd wedi plannu hydrangea sy’n dringo o amgylch yr adeilad a fydd, dros amser, yn dringo'r waliau ac yn sicrhau bod yr adeilad yn cyd-fynd â'r dirwedd. Yn garedicach nag eiddew ar y morter a'r gwaith brics, yn ogystal â llai o waith cynnal a chadw, mae'r hydrangea hefyd yn wych ar gyfer cefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.
Yn y cyfamser, ar y to mae gennym ni ardd blodau gwyllt sydd (er ei bod yn bendant yn felyn ar hyn o bryd), pan mae'n blodeuo, yn llawn lliw ac yn agos at y cychod gwenyn sydd wedi’u gosod bellach ar y to.
Dan sy’n mynegi’r cyfan orau drwy ddweud nad ydi tirwedd fel hon byth yn cael ei gorffen. Mae'n tyfu, yn trawsnewid, yn aeddfedu, yn magu cymeriad. Rhowch ddeng mlynedd iddi ac fe fyddwch chi’n gweld gwreiddiau a chreigiau wedi cloi at ei gilydd o'r diwedd, y tu allan i'n drws.
Fe fyddwn ni’n dal ati i roi lluniau ar ein Instagram wrth i ni blannu ac wrth i bethau dyfu, fel eich bod chi’n gallu gweld sut rydyn ni’n newid ac yn gwreiddio*.
*gair mwys difrifol, ymddiheuriadau**.
**100% ddim yn sori.
Ein Cyllidwyr
Rydyn ni’n ddiolchgar i'r WCVA am eu cefnogaeth barhaus i’n galluogi ni i wireddu'r gwaith plannu a'r tirlunio y tu allan i'n hadeilad. Gallwch gael gwybod mwy am y WCVA yma.


