News Story

Bydd Constellations, sioe hynod lwyddiannus yn rhyngwladol Nick Payne sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cael ei hailddychmygu ar gyfer Cymru fodern gan ein Cyfarwyddwr Cyswllt Daniel Lloyd. Eisteddom i lawr gydag ef i ddarganfod mwy am y sioe:

Sut byddet ti'n disgrifio'r sioe yma i ffrind?
Drama ddisglair, ramantus gyda dau berson hoffus y mae eu bywydau yn cydblethu ac yn symud yn รดl, ymlaen ac o ochr i ochr mewn amryfal fydoedd lle mae unrhyw beth yn bosibl!
Beth oeddet ti'n ei feddwl o'r ddrama pan wnes di ei darllen am y tro cyntaf?
Fe gefais i fy nharo gan ba mor deimladwy ydi stori garu Marianne a Roland a chymaint yr oeddwn i eisiau cydymdeimlo, chwerthin a bod yng nghwmniโr cymeriadau hyn โ syโn her mewn drama mor wallgof o glyfar a gyda chysyniad mor nodedig. Mae'n hynod glyfar ond yn hardd.
Pam maeโr stori ymaโn bwysig iโw hadrodd nawr?
Yn y pen draw maeโn ein dysgu ni i drysoriโr โnawrโ a bod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennym ni. Yng nghynllun mawr y byd, does gennym ni ddim llawer o amser. Mae'n ein hannog ni i fod yn ddewr gyda chariad a bywyd.
Pam maeโr stori ymaโn bwysig iโw hadrodd nawr?
Mae gallu dod รข theitl poblogaidd i gynulleidfa Gymraeg yn fraint ac mae adleoliโr ddrama i Gymru yn caniatรกu i ni ei hailddychmygu hi oโr newydd ac archwilio haenau syโn unigryw i ni. Maeโr ddramaโn chwarae hefoโr posibilrwydd o nifer diderfyn o fydysawdau ac fel dyn dwyieithog o Gymru rydw i wastad wedi teimlo fy mod i wedi pontio sawl hunaniaeth, diwylliant a byd. Bydd archwilioโr ddrama drwyโr lens ymaโn hwyl o leiaf ac fe gawn ni ddarganfod beth syโn gwneud iddi weithio yn y Gymraeg.
A fyddi diโn eu trin nhwโn wahanol?
Byddaf a na fyddaf. Mae'r ddrama ar ei ffurf wreiddiol wedi cael ei saernรฏo'n hardd. Mae gan y fersiwn Gymraeg (sydd wediโi haddasuโn fedrus gan Gwawr Loader) rythm a hunaniaeth yr un mor hyfryd. Bydd y darganfyddiadau fyddwn niโn eu gwneud gydaโr ddau destun yn bwydo i mewn iโr weledigaeth gyfan ar gyfer y cynhyrchiad a bydd ganddo gyfoeth a dyfnder o ganlyniad. Bydd ei wreiddio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i ni wneud ein dewisiadau am ein cymeriadau aโi wneud yn ddilys i ni aโn cynulleidfaoedd ni.
Sut maeโr broses yn gweithio wrth wneud sioe yn y Gymraeg ac yn Saesneg?
Rydyn niโn agor yn Saesneg ac fellyโn canolbwyntio ar hynny wrth ymarfer, ond fe fyddaf yn dod รขโr fersiwn Gymraeg i mewn yn rheolaidd drwy gydol y broses. Bydd angen i'r dewisiadau rydyn niโn eu gwneud weithio'n onest ac yn argyhoeddiadol ar gyfer y ddwy fersiwn ond fe fydd rhai pethau annisgwyl ac anghyson rhwng y ddwy. Rydw i eisiau'r cyfan yn y chwarae - wedi'i gydblethu a'i wau i mewn. Rydw iโn meddwl amdano fel un cyfanwaith cydlynol yn hytrach na dwy fersiwn wahanol.
Ble wyt tiโn dechrau wrth gyfarwyddo drama?
Rydw i'n hoffi dechrau gyda'r cymeriadau. Pwy ydyn nhw, beth sy'n eu cyffroi nhw, beth sy'n llywio eu dewisiadau nhw a sut maen nhw'n meddwl. Mae Cytserau yn ymwneud รข pherthnasoedd a'r dewisiadau rydyn niโn eu gwneyd. Dymaโr gonglfaen i archwilioโr ddrama.
Oes gen ti hoff foment yn y ddrama?
Oes. Heb ddatgelu gormod, yr olygfa olaf lle byddwn niโn ailymweld รขโr foment lle mae Marianne a Roland yn wynebu dewis i ailgynnau eu cariad ai peidioโฆ maeโn gyrru ias i lawr asgwrn y cefn.
Beth hoffet ti i bobl ei gael o'r sioe?
Mae'n wledd i'r synhwyrau. Rydw i'n gobeithio y bydd ein cynulleidfa ni'n cael ei symud gan ddrama wreiddiol syโn procioโr meddwl, sydd wediโi lleoli mewn cynllun syfrdanol. Rydw i eisiau cynnig profiad o lawenydd, chwerthin, dagrau a chalon go iawn.
Bydd Constellations yn cael ei pherfformio yn Theatr Mix, Theatr Clwyd o 10 Mai-25 Mai, a Cytserau 7-8 Mehefin. Bydd perfformiadau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol: BSL 17 Mai, disgrifiad sain a theithiau cyffwrdd 22 Mai a pherfformiad gyda chapsiynau 24 Mai.