Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor gymhleth ydi'ch bywyd chi nes ei fod wedi'i blethu â bywyd rhywun arall

Mae gwenynwr a ffisegydd yn cyfarfod mewn barbeciw. Mae hi'n meddwl am fecaneg cwantwm, theori llinynnau ac amryfalau. Mae o'n meddwl am ei wenyn, ei fêl ac ecoleg.

Oes unrhyw siawns iddyn nhw syrthio mewn cariad?

Mae Sliding Doors yn cwrdd â When Harry Met Sally yn y ddrama dorcalonnus yma am bosibiliadau diddiwedd cariad...

Mae drama arobryn Nick Payne wedi cael ei pherfformio yn y West End ac ar Broadway.

Wedi’i chyfieithu gan Gwawr Loader, peidiwch â cholli’r fersiwn Cymraeg o ddrama arobryn Nick Payne cyn iddi gychwyn ar daith o amgylch Cymru. Argymhellir archebu lle'n gynnar.

Cast

  • Gwenllian Higginson

    Marianne
  • Aled Pugh

    Roland

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr: Daniel Lloyd
Cynllunio Setiau a Gwisgoedd: Hayley Grindle
Cynllunio Goleuo: Jonathan Chan
Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cyfarwyddwr Symudiad: Francesca Jaynes

Cyfarwyddwr Ymladd: Kaitlin Howard
Cyfarwyddwr Cynorthwyol:Mary Davies
Cyfarwyddwr Castio: Polly Jerrold
Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Bethan Mair-Hughes
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Phoebe Storm