Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor gymhleth ydi'ch bywyd chi nes ei fod wedi'i blethu â bywyd rhywun arall…
Mae gwenynwr a ffisegydd yn cyfarfod mewn barbeciw. Mae hi'n meddwl am fecaneg cwantwm, theori llinynnau ac amryfalau. Mae o'n meddwl am ei wenyn, ei fêl ac ecoleg.
Oes unrhyw siawns iddyn nhw syrthio mewn cariad?
Mae Sliding Doors yn cwrdd â When Harry Met Sally yn y ddrama dorcalonnus yma am bosibiliadau diddiwedd cariad...
Mae drama arobryn Nick Payne wedi cael ei pherfformio yn y West End ac ar Broadway.
Caiff y ddrama yma hefyd ei pherfformio yn y Gymraeg mewn cyfieithiad gan Gwawr Loader (7-8 Mehefin)

Sioeau Cymwys: Kill Thy Neighbour | Constellations neu Cytserau | Rope
Mae ein bargeinion tocynnau ni’n eich helpu chi i weld mwy o sioeau am lai. Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym - peidiwch â cholli’r cyfle!
Telerau ac Amodau | Yn amodol ar argaeledd | Arbedion yn seiliedig ar y gostyngiad gorau gyda thocynnau pris mwyaf | Y cynigion ddim yn berthnasol i’r pris tocyn lleiaf - £10 fel rheol | Rhaglenni am ddim ar gyfer sioeau wedi’u prynu yn unig, eu casglu ar ddiwrnod y perfformiad ac yn gyfyngedig i un rhaglen fesul archeb | I fod yn gymwys am y fargen rhaid prynu pob tocyn yn yr un trafodiad.