Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i ateb i’ch cwestiwn, mae croeso i chi ebostio ein tîm cyfeillgar ar music@theatrclwyd.com

Cyffredinol

Sut alla i gofrestru ar gyfer gwersi offerynnol?

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wersi rydym yn eu cynnig ar ein gwefan. Unwaith y byddwch yn gwybod pa fath o wersi yr hoffech chi, gallwch gofrestru’n uniongyrchol yma.

Pa offerynnau sydd ar gael ar gyfer y tiwtora?

Gallwch ddod o hyd i’r offerynnau rydym yn eu cynnig yma.

Faint mae’r gwersi’n gostio?

Gallwch ddod o hyd i brisiau ar gyfer ein gwersi Yn Yr Ysgol yma a phrisiau ein gwersi Llwybrau Cerddorol ar gyfer bob oed, sy’n digwydd y tu allan i’r ysgol yma.

Ydych chi’n cynnig gwersi offerynnol ar gyfer oedolion?

Ydyn, mi ydyn ni! Mae ein gwersi Llwybrau Cerddorol ar gyfer bob oed – gan gynnwys oedolion!

Alla i gael gwersi gyda Theatr Clwyd os ydw i o du allan i ardal Sir y Fflint?

Gallwch, rydyn ni’n cynnig gwersi i rai o du allan i ardal Sir y Fflint trwy ein cyrsiau Llwybrau Cerddorol.

Alla i ddysgu mwy nag un offeryn?

Gallwch, fe allwch chi ddysgu faint bynnag ag yr hoffech gyda ni. Er hynny, os ydych chi’n dechrau gyda’ch offeryn cyntaf un, rydyn ni’n argymell ffocysu ar hwnnw i ddechrau, cyn plymio i mewn i weddill y cwpwrdd offerynnau.

Oes gennych chi unrhyw grwpiau cerddorol alla i ymuno gyda nhw?

Oes! Mae ein grwpiau ac ensembles yn cael ymarferiadau wythnosol ar ôl ysgol yn ystod tymor yr ysgol, yn arwain at gyfres o cyngherddau dros y Nadolig, yn gynnar ym mis Mai a chyngherddau diwedd y flwyddyn ym mis Gorffennaf. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein grwpiau ac ensembles yma.

Pwy fydd yn fy nysgu?

Mae gennym ni dîm gwych o 32 Cyswllt Cerddorol sy’n gweithio i Gerddoriaeth Theatr Clwyd.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer gwersi ac y bydd athro/awes wedi ei ddewis i chi, byddent yn cysylltu a byddwch yn gallu sgwrsio gyda nhw’n uniongyrchol.

Sut alla i wybod am ddatblygiad fy mhlentyn?

Mae ein porth ar-lein SpeedAdmin yn cynnwys adran ddefnyddiol dros ben o’r enw StudyPlan ble mae’r Cyswllt Cerddorol yn anfon cynlluniau gwersi, awgrymiadau a argymhellion at ddisgyblion cyn gwersi, a’u hatgoffa beth maent yn gweithio tuag ato ar gyfer yr wythnos ganlynol. Gallwch fewngofnodi i SpeedAdmin i weld hynny yma. Rydyn ni hefyd yn cynnal Noson Rieni bob tymor.

Ydych chi’n cynnal Nosweithiau Rhieni?

Rydyn ni’n cynnal sesiynau Nosweithiau Rhieni ar Zoom bob tymor. Byddwch yn clywed gan eich athro/awes tuag at ddiwedd bob tymor, yn cynnig nifer o amseroedd ble maent yn rhydd am sgwrs.

Ydych chi’n cynnig arholiadau Graddau?

Mae arholiadau’n rhan ddefnyddiol o daith dysgu’r myfyrwyr, ac yn gallu bod yn garreg filltir i anelu ati yn ogystal â rhoi teimlad o lwyddiant a balchder. Er hynny, rydyn ni hefyd yn annog tiwtoriaid a myfyrwyr i beidio â ffocysu’n ormodol ar y rhain uwch bopeth arall. Mae’n well gennym ni agwedd holistig ble rydym yn magu ymdeimlad o fwynhad a chwilfrydedd am gerddoriaeth yn ein cerddorion ifanc, boed yn dystysgrifau neu lwyddiannau ai pheidio.

Pan a ble mae’n addas, rydyn ni’n cynnig rhoi’r myfyrwyr ymlaen am arholiadau offerynnol, ac yn gwneud hynny gyda’r ABRSM a Choleg y Drindod Llundain.

Os oes gennych chi ddiddordeb neu’n ystyried ceisio sefyll arholiad, dyliech drafod hyn gyda’ch tiwtor Cyswllt Cerddorol – a fydd yn eich tywys chi i weld os ydi hyn yn syniad da i chi, pa repertoire ac elfennau eraill fydd angen, a phryd fyddai’n amser da yn y flwyddyn i geisio.



Yn y Gwersi Ysgol

Ble cynhelir y gwersi?


Bydd ein gwersi ysgol yn cael eu darparu wyneb yn wyneb yn yr ysgolion ledled Sir y Fflint, yn ystod oriau ysgol.

Alla i gael gwersi tu hwnt i amser ysgol?


Rydyn ni’n awgrymu’n gryf i fyfyrwyr oed ysgol i gael eu gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol gan bod eu gwersi yn yr ysgol yn cael cymhorthdal ac yn rhatach i chi!

Er hynny, mae ein cyrsiau Llwybrau Cerddorol yn agored i bob oed gael gwersi cerdd tu allan i’r ysgol os oes well gennych chi hynny.

Ydi’r gwersi mewn grŵp neu’n unigol?

Ar gyfer ein gwersi ysgol, rydyn ni’n cynnig tiwtora ar gyfer grwpiau o 2 neu 3, yn ogystal ag yn unigol. Ydi hi’n well cael gwersi grŵp neu wersi unigol?

Mae’n dibynnu ar beth sy’n eich siwtio chi. Gyda gwersi unigol, mae mwy o le ar gyfer profiad wedi’i deilwra gan fod y gwersi’n un-i-un ac mae’r athro/awes yn gallu symud ar gyflymder penodol eich plentyn chi. Er hynny, mae gwersi grŵp yn opsiwn rhatach ac mae’n gallu bod yn hwyl ac yn ysgogol i chwarae gyda rhwyun arall, tra’n dysgu sgiliau ensemble gwerthfawr.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cofrestru ar gyfer gwersi grŵp, ond nad oes digon o fyfyrwyr wedi cofrestru?


Yn yr achos nad oes digon o fyfyrwyr o’ch ysgol wedi cofrestru ar gyfer gwersi grŵp er mwyn llenwi’r grŵp o 2 neu 3 fel a gynllunwyd – byddwn yn cysylltu gyda chi i sgwrsio am opsiynau. Gall hyn gynnwys cael gwersi wedi eu cwtogi ar raddfa addas tan fo rhywun arall yn cofrestru, neu symud i’r rhestr aros tan mae mwy o bobl wedi cofrestru. Bydd y tîm cerddoriaeth yn hapus i drafod hyn gyda chi music@theatrclwyd.com


Pryd fydd fy ngwersi’n dechrau?


Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer cyfnod cofrestru’r haf, bydd eich gwersi’n dechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 12 Medi 2022.

Os ydych chi wedi cofrestru ers hynny, bydd gwersi’n dechrau o fewn 1-2 wythnos o pan wnaethoch gwblhau’r ffurflen gofrestru. Mae hyn er mwyn caniatau amser i ni wneud trefniadau addas gyda’n tiwtoriaid a’n amserlenni, yn ogystal â chydlynu gyda’r ysgol pan fo angen. Bydd un o’n Cysylltiadau Cerddorol mewn cysylltiad i gadarnhau’r dyddiad ac amser gyda chi. Mae’r flwyddyn ysgol wedi dechrau’n barod. Ydi hi’n dal yn bosib i mi gofrestru?

Gallwch! Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Rydw i wedi cofrestru ar gyfer gwersi, ond yn dal heb ddechrau. Ydw i ar restr aros?


Mewn rhai achosion, os ydych chi wedi dewis offeryn sy’n hynod boblogaidd, efallai y byddwch ar restr aros dros dro wrth i ni ddod o hyd i athro/awes ar eich cyfer chi neu ystafelloedd dysgu ar gael yn yr ysgol.

Os ydych chi ar y rhestr aros, byddwn yn ceisio dechrau eich gwersi mor fuan ag y bydd gennym y capasiti – ond os oes well gennych chi beidio ag aros, gallech, yn hytrach, brofi gydag offeryn gwahanol. Cysylltwch â music@theatrclwyd.com i weld beth sydd ar gael.


Mae fy mhlentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim. Alla i gael gostyngiad?


Os ydi’ch plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim, bydd yr ysgol yn talu costau eu gwersi cerdd.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd grŵp o 3 gwers 30 munud ar gael, er hynny gallwch drafod gyda’ch ysgol i weld os y buasent yn ystyried cyllido math arall o wersi e.e. gwersi unigol. Bydd hyn yn newid o achos-i-achos yn dibynnu ar yr ysgol.

I fanteisio ar hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gyda’ch ysgol faint o diwtora mae’r ysgol yn ei gyllido, cyn cwblhau eich cofrestriad. Yna, gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio’r blwch perthnasol fel ein bod yn gallu trefnu taliad gyda’ch ysgol.

Rydw i’n astudio TGAU / AS / Lefel-A Cerdd, oes rhaid i mi dalu am fy ngwersi?

Mewn rhai ysgolion yn Sir y Fflint, bydd cost eich gwersi offerynnol yn cael ei dalu gan eich ysgol os ydych yn astudio TGAU neu AS/Lefel-A Cerdd.

I fanteisio ar hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gyda’ch ysgol faint o diwtora mae’r ysgol yn ei gyllido, cyn cwblhau eich cofrestriad. Yna, gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio’r blwch perthnasol fel ein bod yn gallu trefnu taliad gyda’ch ysgol.

Alla i gadw’r un athro/awes os ydw i’n newid ysgol, er enghraifft o ysgol gynradd i uwchradd?


Byddwn yn ceisio sicrhau cyn gymaint o barhad â phosib er hynny efallai y byddwch yn cael athro/awes gwahanol i’n tîm Cyswllt Cerddorol talentog a phrofiadol ni os ydych chi’n newid ysgol, yn dibynnu ar argaeledd.

Gallwch wastad gysylltu â’r tîm cerddoriaeth ar music@theatrclwyd.com i drafod os oes gennych chi ymholiadau penodol neu ofynion.

Fydd gen i’r un athro/awes flwyddyn nesa’?

Byddwn yn ceisio sicrhau cyn gymaint o barhad â phosib o un flwyddyn ysgol i’r llall. Er hynny, efallai y byddwch yn cael athro/awes gwahanol i’n tîm Cyswllt Cerddorol talentog a phrofiadol ni ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd, yn dibynnu ar argaeledd.

Gallwch wastad gysylltu â’r tîm cerddoriaeth ar music@theatrclwyd.com i drafod os oes gennych chi ymholiadau penodol neu ofynion. Pryd fydd gwersi’n cael eu cynnal?

Rydyn ni’n ceisio amseru gwersi rhwng 9:00yb a 3:00yh – ond yn dibynnu ar hyblygrwydd yr ysgol a’r myfyriwr / rhiant, efallai y byddent yn dechrau ychydig yn gynharach neu orffen ychydig yn hwyrach na hyn o dro i dro os ydi hynny’n ofynnol er mwyn ffitio amserlen lawn y myfyrwyr.

Pan fo’n bosibl, rydym yn ceisio gweithredu polisi rota ar gyfer gwersi, I sicrhau nad ydi myfyrwyr yn colli’r un pwnc dosbarth ar yr un amser bob wythnos.

Byddwch yn derbyn gwybodaeth am amseroedd gwersi cyn eich dosbarth cyntaf, yn uniongyrchol gan eich tiwtor Cyswllt Cerddorol trwy SpeedAdmin, a gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif SpeedAdmin unrhyw dro i wirio amseroedd eich gwersi nesaf.



Llwybrau Cerddorol (Gwersi Allan o’r Ysgol)

Beth ydi gwersi Llwybrau Cerddorol?

Llwybrau Cerddorol ydi’r enw a roddir ar y gwersi yr ydyn ni’n gynnig tu allan i’r ysgolion. Mae’r rhain ar gael i rai o bob oed gan gynnwys pobl ifanc ac oedolion – dydi hi fyth yn rhy hwyr i roi cynnig ar offeryn cerdd!

Ble mae gwersi Llwybrau Cerddorol yn cael eu cynnal?


Gallwch ddewis i gael gwersi ar-lein neu mewn person yn ein canolfan yn Yr Wyddgrug. Os gwelwch yn dda dewiswch Mewn Person neu Ar-lein pan yn archebu eich Gwersi Llwybrau Cerddorol.

Alla i gael gwersi Llwybrau Cerddorol mewn grŵp?


Mae ein gwersi Llwybrau Cerddorol yn cael eu cynnig un-i-un. Os hoffech chi chwarae cerddoriaeth gydag eraill edrychwch pa grwpiau cerddorol allwch chi ymuno gyda nhw yma. Ble fydd y gwersi’n cael eu cynnal?

Bydd amseroedd y gwersi hyn yn cael ei gytuno rhyngoch chi a’ch tiwtor. Byddwn yn ceisio bod yn hyblyg i’ch siwtio chi, er hynny os gwelwch yn dda noder bod rhai o’n staff yn gweithio rhan amser yn ogystal ag mewn ysgolion yn ystod y dydd – felly mae hi’n bosib na fydd eich dewis ffafriol wastad yn bosib.

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif SpeedAdmin unrhyw dro i weld amseroedd a manylion pellach am eich gwersi nesaf.

Pryd fydd fy ngwersi’n dechrau?


Os wnaethoch chi gofrestru am wersi yn ystod cyfnod cofrestru’r haf, bydd eich gwersi’n dechrau ym mis Medi, yn ystod yr wythnos yn dechrau 12 Medi.

Os ydych chi wedi cofrestru ers hynny, bydd eich gwersi’n dechrau o fewn 1-2 wythnos o pan fyddwch yn cwblhau’r ffurflen gofrestru. Mae hyn yn caniatau amser i ni wneud trefniadau addas gyda’n tiwtoriaid a’u amserlenni. Bydd un o’n Cysylltiadau Cerddorol mewn cysylltiad gyda chi i gadarnhau dyddiad ac amser.

Rydw i wedi cofrestru am wersi, ond heb ddechrau eto. Ydw i ar restr aros?


Os ydych chi wedi dewis offeryn hynod o boblogaidd, efallai y byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros tra rydyn ni’n dod o hyd i athro/awes i chi. Byddwn yn ceisio dechrau eich gwersi cyn gynted ag y mae gennym y capasiti – ond os oes well gennych chi beidio ag aros, gallech, yn hytrach, brofi gydag offeryn gwahanol. Cysylltwch â music@theatrclwyd.com i weld beth sydd ar gael.



Taliadau

Sut i dalu am wersi?

Telir am wersi trwy ddebyd uniongyrchol. Fel rhan o’n proses gofrestru byddwch yn creu cyfrif gyda GoCardless, a thrwy hwnnw yn gwneud taliadau misol.

Sut mae taliadau misol yn cael eu cyfrifo?


Mae ein Debydau Uniongyrchol yn cael eu cyfrifo ar gyfanswm cost 34 o wersi a ddarperir mewn blwyddyn ysgol, wedi eu gwasgaru dros 10 mis o daliadau o Fedi-Gorffennaf.

Er enghraifft, y ffi ar gyfer Gwersi 30 munud Yn Yr Ysgol ydi £16.76 mesul gwers fel arfer. Dros y flwyddyn academaidd, mae cyfanswm o 34 gwers am y pris hwn yn costio £570. Wedi eu gwasgaru’n hafal dros 10 mis, o Fedi-Gorffennaf, y gost ydi £57 y mis.

Fydda i’n derbyn ad-daliad os ydi fy athro/awes yn canslo gwers?

Os nad ydi’n Cysylltiadau Cerddorol yn gallu dod i wers (e.e. oherwydd salwch) byddent yn ceisio aildrefnu hyn ar gyfer wythnos arall tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd yn un o’n ‘wythnosau dal-fyny’ neilltuol. Os nad ydi hyn yn bosib, byddwch yn cael ad-daliad o gost y wers ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, ym mis Gorffennaf.


Offerynnau

Pa offerynnau sydd ar gael ar gyfer tiwtora?

Gallwch ddod o hyd i’r offerynnau rydyn ni’n eu cynnig yma.

Dydw i ddim yn berchen ar offeryn. Alla i logi un?


Rydym wedi oedi ein gwasanaeth llogi offerynnau i fyfyrwyr newydd dros dro tan rydyn ni’n rhoi tipyn bach o faldod i’n offerynnau ond bydd offerynnau ar gael i’w llogi yn y dyfodol agos. Byddwn yn gadael i chi wybod cyn gynted â phosib!

Alla i brynu offeryn trwy Gerddoriaeth Theatr Clwyd, ac ydi hynny ar bris gostyngedig?


Os ydych chi’n barod i brynu eich offeryn eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod hyn gyda’ch athro/awes a fydd yn gallu rhoi arweiniad i chi a chyngor ynglŷn â’r math/maint sy’n addas i chi.

Yn anffodus, nid ydyn ni’n gallu prynu offerynnau i’n myfyrwyr mwyach trwy’r gwasanaeth yn uniongyrchol ar bris gostyngedig – fel yn y gorffennol.

Dylai myfyrwyr sy’n dymuno prynu offeryn a manteisio ar y gostyngiad addysgol drafod hyn gyda’u hysgol, a gofyn am wybodaeth am Gynllun Prynu Offeryn Cynorthwyol HMRC.