Mae ein Tîm Cerddoriaeth yn darparu addysg gerddorol ymarferol ar draws ein cymuned leol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar sicrhau bod holl bobl ifanc Sir y Fflint yn cael cyfle i ddysgu canu offeryn cerddorol a manteisio ar brofiadau cerddorol yn gyffredinol.
Amdanom Ni
Sefydlwyd Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn 2020 gan Theatr Clwyd, drwy etifeddu Gwasanaeth Cerdd Sir y Fflint gan y cyngor sir, i sicrhau parhad a ffyniant yr ased cymunedol pwysig hwn.
Mae ein tîm profiadol a medrus yn dysgu amrywiaeth o offerynnau ac arbenigeddau gan gynnwys canu, gitâr, drymiau, taro, llinynnol, chwythbrennau, pres, telyn, piano a theori cerddoriaeth. Gyda’n gilydd rydym yn defnyddio grym trawsffurfiol cerddoriaeth i gynnig cyfleoedd dysgu a pherfformio creadigol o fewn byd addysg ac yn y gymuned.



Gwersi Offerynnol
Rydym yn darparu gwersi offerynnol yn unigol a mewn grŵp mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ar hyn o bryd mae’r gwersi hyn yn cael eu darparu yn ddigidol trwy wersi rhyngweithiol, byw, ar-lein yn hytrach na mewn dosbarthiadau. Gall y gwersi offerynnol yma baratoi disgyblion at arholiadau cerddorol ymarferol lle bo’n briodol.
Ensembles a Grwpiau
Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd perfformio o fewn amryw o gerddorfeydd, bandiau, corau ac ensembles. Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod ar lefel sirol yn ogystal a grwpiau i amrediad o oedrannau, a gallu ar hyd a lled Sir y Fflint. Mae’r grwpiau yn cyfarfod i ymarfer mewn cymysgedd o sesiynau wythnosol ar ôl ysgol, ymarferion dwys ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, ac yn cael amryw o gyfleoedd i berfformio drwy’r flwyddyn.
Ymgysylltu Cymunedol
Tu hwnt i hyn, rydym yn cyfrannu i waith ymgysylltu cymunedol ehangach y theatr, ac yn helpu i hyrwyddo'r sefydliad fel hyb creadigol artistig yn lleol, fel rhan o weledigaeth Theatr Clwyd.
Darganfyddwch fwy am logi ein hofferynnau
Cymerwch gip ar y telerau ac amodau ar gyfer llogi offerynnau.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein telerau ac amodau: cliciwch yma.
Cysylltu
Cysylltwch â’r Tîm Cerddoriaeth drwy anfon e-bost at: cerddoriaeth@theatrclwyd.com