Pa Offerynnau Allaf i eu Dysgu?
Rydym yn cynnig gwersi ar draws amrywiaeth eang o offerynnau, gan gynnwys:
Llinynnol
Ffidil, Fiola, Soddgrwth, Bas Dwbwl
Chwythbrennau
Clarinet, Ffliwt, Obo, Basŵn, Sacsoffonau, Recorder
Taro
Cit Drymiau, Taro Cerddorfaol
Gitâr
Acwstig, Clasurol, Trydan, Bas
Pres
Corned, Trwmped, Trombôn, Corn Ffrengig, Corn Tenor, Corn Bariton, Corn Fflwgel, Ewffoniwm, Tiwba
Popeth Arall
Piano, Telyn, Canu, Theori Cerddoriaeth a Hyfforddiant Clywedol
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha offerynnau arbennig sydd ar gael yn eich ysgol gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol ar e-bost music@theatrclwyd.com
Dydw i ddim yn berchen ar offeryn - alla i logi un?
Rydym wedi oedi ein gwasanaeth llogi offerynnau i fyfyrwyr newydd dros dro tan rydyn ni’n rhoi tipyn bach o faldod i’n offerynnau ond bydd offerynnau ar gael i’w llogi yn y dyfodol agos. Byddwn yn gadael i chi wybod cyn gynted â phosib!
Cofrestrwch yma i dderbyn neges pan fydd offerynnau ar gael i’w hurio.