Rydyn ni’n chwilio am bobl fyddar, anabl ac/neu niwrowahanol o’n cymuned leol
See dates and times 12 Mai 2025
News Story

Grŵp Cymunedol Mynediad
Dylai pawb gael y cyfle i fwynhau hud y theatr.
Mae Theatr Clwyd yn ymroddedig i greu amgylchedd cynhwysol o fewn y theatr ac mae angen help i siapio’r garreg filltir ar gyfer y theatr wrth symud yn ôl i’r adeilad yng ngwanwyn 2025.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n Fyddar, yn Anabl a / neu’n Niwroamrywiol sy’n angerddol am hygyrchedd ym maes y celfyddydau ac sy’n gallu chwarae rhan hanfodol wrth lunio’r weledigaeth hon gyda Theatr Clwyd. Mae gan bobl Fyddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol brofiad a dealltwriaeth uniongyrchol o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth gael mynediad i theatr.
Hefyd gall partneriaethau gyda sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan bobl anabl gyfrannu gwybodaeth hanfodol am brofiadau bywyd pobl anabl ac os ydych chi’n sefydliad sy'n cefnogi pobl Fyddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol, fe allwch chi hefyd wneud cais am yr alwad hon.
Os ydych chi'n berson Byddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol neu'n sefydliad sy'n gweithio'n agos gyda phobl Byddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol ac sydd â diddordeb yn y celfyddydau, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi a chael sgwrs am sut i gymryd rhan.
Gweledigaeth ar gyfer y grŵp
- Drwy gymryd rhan, gall unigolion a / neu sefydliadau rannu eu profiadau o gael mynediad i Theatr Clwyd a sut gallwn ni wella pethau ar gyfer dyfodol y Theatr.
- Gallai hyn fod yn ein helpu ni gyda sut i archebu tocynnau, sut i symud drwy ofod, sut i wneud gweithgareddau cyfranogol fel gweithdai yn fwy hygyrch, help gydag arferion recriwtio gorau, sut rydym yn marchnata ein gwaith (enghreifftiau yn unig yw'r rhain). Fel grŵp byddem wrth ein bodd yn llunio agenda a themâu rydych chi fel grŵp yn gallu uniaethu â nhw. Mae hwn i raddau helaeth yn ddull sy'n canolbwyntio ar bobl o weithredu.
- Gall y cyfarfodydd hyn helpu i olrhain cynnydd a chaniatáu deialog barhaus am heriau hygyrchedd o fewn cwmni Theatr Clwyd. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl uwch dîm arwain yn dod i un cyfarfod y flwyddyn er mwyn gallu trafod pob agwedd ar y theatr a’u gwella gobeithio.
- Bydd gennych fynediad i’n cynyrchiadau llwyfan a’n digwyddiadau yn Theatr Clwyd: Gwylio sioeau, dod i ymarferion pan fo hynny’n briodol a dod i ddeall rhai o’r prosesau creu theatr. Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig rhannu sut mae pethau’n cael eu gwneud, a’r broses rydyn ni’n ei defnyddio ar hyn o bryd a’r rhai rydyn ni’n bwriadu eu cyflwyno. Bydd rhai sesiynau’n canolbwyntio ar flaen y tŷ i gefn llwyfan – pob agwedd ar y theatr!
- Byddwn yn cael trafodaeth ac yn rhannu arferion da a all fod o gymorth i greu mannau a theimlad mwy hygyrch o fewn y theatr ar gyfer y dyfodol.
Beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r grwp yma?
- Ymrwymiad i 3/4 cyfarfod y flwyddyn – dyddiadau 2025 wedi eu cadarnhau: 18fed o Orffennaf / 10fed o Fedi / 10fed o Ragfyr.
- Amser y cyfarfodydd ar hyn o bryd: 2-5pm (ond os bydd angen newid, gallwn fod yn hyblyg yn dibynnu ar y grŵp)
- Mae’r holl gyfarfodydd yn 2/3 awr o hyd (gyda sawl seibiant ar gyfer byrbrydau, te a choffi) gyda sioe ychwanegol weithiau i ni ei gwylio gyda’n gilydd.
- 2 docyn AM DDIM ar gyfer pob sioe a gynhyrchir gan Theatr Clwyd i chi eu defnyddio unrhyw bryd yn ystod y rhediad. Am hynny, gofynnwn am flog byr / nodiadau neu adborth ar eich profiad o ddod i’r theatr.
- Dull hyblyg gyda thâl i bawb: Rydyn ni’n cydnabod na fydd angen tâl ar rai cyfranogwyr efallai, ac rydyn ni’n barod i gael sgyrsiau am hyn. Rydyn ni’n cynnig £50 y cyfarfod ac os byddwn yn gofyn am unrhyw gyfarfodydd neu adborth ychwanegol byddwn yn talu yn unol â hynny am eich amser.
- Mae taliadau cludiant ar gael lle bo angen, a gallwn gefnogi pobl i ddod i'r grŵp hwn os cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Gallwn gael sgwrs agored am hyn a sut orau i'ch cefnogi chi.
- Cael cymorth i ymuno â chyfarfodydd ar lein / wyneb yn wyneb neu ymweliadau â’r theatr.
- Rydyn ni’n chwilio am 8 unigolyn i ymuno a’r grwp yma o’n cymuned leol ni neu os ydych chi’n gweithio fel rhan o sefydliad, gallwch fynegi diddordeb: Os ydych chi’n perthyn i sefydliad gallwch wneud cais am 2 le (rydyn ni’n annog i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol fod yn rhan o’r sefydliadau).
- Mae hwn yn ymrwymiad dwy flynedd o fis Mehefin 2025-2027.
Y camau nesaf:
Os oes gennych chi ddiddordeb gallwch gysylltu drwy anfon llythyr neu nodyn llais, galwad ffon neu fideo i fynegi eich diddordeb erbyn 15 Mehefin
Dyddiadau ar gyfer cyfweliadau: 5 Mehefin a gallwn eich cefnogi chi gydag unrhyw anghenion mynediad neu ariannol ar gyfer y cyfweliad hwn. Gellir cynnal y cyfweliad wyneb yn wyneb neu ar-lein. Efallai y byddwn yn ffonio pobl yn ôl am ail sgwrs anffurfiol yr wythnos ganlynol.
Os byddwch chi'n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad…..
3pm – 6pm yn y theatr ar y 18 Mehefin (cyflwyniad a dod i’n hadnabod ni yn y theatr). Fel rhan o’r diwrnod yma mae gwahoddiad i chi ymuno â ni yn y perfformiad gyda sain ddisgrifiad o Tick Tick Boom am 7.30pm. Byddem wrth ein bodd yn cael eich adborth ar y cynhyrchiad a’r perfformiad sain ddisgrifiad, a byddai’n hyfryd gwylio theatr gyda’n gilydd! Dyma’r sioe https://www.theatrclwyd.com/event/tick-tick-boom a mwy am y sain ddisgrifiad: Perfformiadau Hygyrch | Theatr Clwyd
Os ydych chi angen unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch:
Gwennan Mair – Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol
gwennan.mair@theatrclwyd.com
Gwneud Cais
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni drwy lythyr neu nodyn llais, galwad ffôn neu fideo i fynegi eich diddordeb erbyn 30 Mai
Anfonwch eich cais drwy lythyr neu fideo i: apply@theatrclwyd.com
Neu anfonwch nodyn llais neu cysylltwch â ni ar: 07377165950