The Haunting Of Hill House

See dates and times  

Ar Werth i Aelodau – o 7 Ebrill
Y Cyhoedd – o 14 Ebrill

Mae Hill House yn aros amdanoch chi…

Cyfle i brofi digwyddiad theatrig brawychus o stori ysbryd “bron yn berffaith” (Stephen King) Shirley Jackson.

O nofel sydd wedi gwerthu orau i gyfres Netflix eithriadol boblogaidd, mae The Haunting of Hill House yn camu ar y llwyfan bellach yn y cynhyrchiad newydd gafaelgar yma sy’n symud rhwng gwneud i'ch calon guro'n gyflym a’r goruwchnaturiol.

Mae’r addasiad llwyfan newydd beiddgar yma'n llawn tyndra, yn aflonyddu ac yn dywyll o chwareus, lle mae Cysgodion yn sibrwd, waliau’n cofio a dim byd fel mae’n ymddangos… Wrth i alar, dyhead a chysur peryglus perthyn dreiddio drwy bob wal, mae un cwestiwn yn aros: a yw Hill House yn dŷ ysbrydion… neu ai ni yw'r drwg?

Mae ysbryd yn gallu bod yn llawer o bethau. Atgof, breuddwyd, cyfrinach, galar, dicter, euogrwydd.”

Pan mae grŵp o ymchwilwyr beiddgar yn mynd i’r afael â dirgelwch Hill House, mae chwilfrydedd yn troi'n ofn yn gyflym iawn. Mae arbrofion yn plymio i dywyllwch. Mae aflonyddu rhyfedd yn llifo drwy goridorau troellog... Wrth i'r tŷ dynhau ei afael, bydd yn eich gadael chi ar ymyl eich sedd… ac yn cwestiynu beth sy'n real ymhell ar ôl i'r llen ddisgyn.

“The definitive haunted house story” The Guardian

The Haunting of Hill House, yn seiliedig ar y nofel gan Shirley Jackson, wedi'i haddasu ar gyfer y llwyfan gan enillydd Gwobr Olivier a BAFTA, Stef Smith, ac wedi'i gyfarwyddo gan enillydd Gwobr Sky Arts, Martin Constantine.

Mae Mark Puddle, gydag Alexander “Sandy” Marshall a Patrick Myles, yn cyflwyno cynhyrchiad Wiltshire Creative mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd. Wedi'i gefnogi gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus gan Arts Council England a Cyngor Celfyddydau Cymru