Theatr Clwyd yn ‘Suo’ i Groesawu Aelodau Mwyaf Newydd y Cast
See dates and times 13 Awst 2026
News Story

Am y tro cyntaf yn hanes y theatr, mae 20,000 o wenyn Buckfast bellach yn cymryd lle canolog ar do'r adeilad.
Tra bod gwenyn dan fygythiad, aeth Black Mountain Honey at y theatr i gefnogi bioamrywiaeth yr ardal trwy greu cynefin newydd ffyniannus i’r nythfa.
Dywedodd Laurence Edwards, Sylfaenydd a Ffermwr Gwenyn: “Mae’r gwenyn yn ychwanegu haen arall at yr adeilad. Nid theatr, bwyd, celf a pherfformiad yn unig ydyw. Mae hefyd yn natur, peillio, addysg a chynnyrch lleol, i gyd yn digwydd mewn un lle.”

Bydd y ddau gwch gwenyn a'u Brenhines, sy'n dod o Nercwys, yn chwilota am fwyd yn yr ardd, blodau gwyllt a'r ardaloedd cyfagos ac yn cynhyrchu hyd at 200 pwys o fêl lleol, wedi'i deilwra'n arbennig. Ar ei gryfder llawn, gallai'r nythfa dyfu hyd at 100,000 o wenyn.
Bydd pob gwenynen fach yn chwarae rhan mawr iawn yn nhaith amgylcheddol Theatr Clwyd a'i hymrwymiad i gynaliadwyedd.
Dywedodd Zoe Crick-Tucker, Cyfarwyddwr Datblygu a Chynaliadwyedd Amgylcheddol: "Mae dyfodiad dau gwch gwenyn yn nodi cam arall wrth wireddu ein huchelgeisiau amgylcheddol. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i'r gymuned a'r byd naturiol, ac yn ysbrydoli ymwelwyr ac yn helpu i amddiffyn yr ecosystemau yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw."
Wrth i'r cyffro barhau i gynyddu, cliciwch yma i ddysgu rhagor am genhadaeth amgylcheddol y theatr.


