Pinocchio

The Rock 'n' Roll Panto

See dates and times   –

Byddwch yn barod i rocio!

Bod yn fachgen go iawn ydi breuddwyd Pinocchio,
ond i bobl Ye Olde Mold dim ond tegan direidus ydi o!

Panto fydd yn gwneud i chi chwerthin dros y lle,
a gweiddi a dawnsio fel dwn i'm be!

A fydd breuddwyd Pinocchio yn dod yn wir?
Prynwch docyn a chewch wybod cyn bo hir!

Helpwch ni i godi'r to, yn oedolion a phlant -
Mae'r panto yma'n arbennig iawn wrth i ni ddathlu'r HANNER CANT!

Mae ein panto hynod lwyddiannus ni'n dychwelyd gyda cherddoriaeth fyw a'r caneuon roc, pop a soul mwyaf! Wedi'i ysgrifennu gan Christian Patterson (Cinderella, Mother Goose) a'i gyfarwyddo gan Daniel Lloyd (Cinderella, Mother Goose).

Cast
Tîm creadigol

Cyfarwyddwr – Daniel Lloyd
Cynllunydd Set a Gwisgoedd – Cai Dyfan
Coreograffydd – Jess Williams
Cynllunydd Goleuo – Katy Morison
Cynllunydd Sain – Mike Beer
Cyfarwyddwr Cerddorol – Ben Goddard
Cyfarwyddwr Castio
– Jenkins McShane CDG

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Kate Salmon
Cynhyrchydd Llinell – Branwen Jones
Rheolwr Cynhyrchu – Cassey Driver
Rheolwr Llwyfan y Cwmni – Alec Reece
Dirprwy Rheolwr Llwyfan– Ed Salt
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol – Emma Hardwick


FAQ's

Perfformiadau Ysgolion - Cliciwch yma am fwy

• 2 Rhag @ 10am 🚫 | 1:30pm 🚫
• 3 Rhag @ 10am 🚫| 1:30pm 🚫
• 8 Rhag @ 1:30pm 🟡
• 9 Rhag @ 10am 🚫 | 1:30pm 🚫
• 10 Rhag @ 10am 🚫 | 1:30pm🟡
• 16 Rhag @ 10am 🚫| 1:30pm 🚫
• 17 Rhag @ 1:30pm 🚫
• 6 Ion @ 10am 🚫 | 1:30pm 🟢
• 7 Ion @ 1:30pm 🚫
• 12 Ion @ 1:30pm 🟢
• 14 Ion @ 1:30pm 🚫

🚫 Wedi gwerthu allan
🔴 Yn gwerthu'n gyflym
🟡 Rhywfaint o argaeledd
🟢 Digon o argaeledd

Mae'r perfformiadau yma ar gael i'w harchebu ar gyfer ysgolion a grwpiau addysg yn unig. Tocynnau ysgolion o £12. I archebu tocynnau ar gyfer eich ysgol e-bostiwch Rhiannon Isaac - rhiannon.isaac@theatrclwyd.com neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01352 344101, os gwelwch yn dda.

Ydych chi'n cynnig gostyngiadau i blant?

Rydyn ni'n cynnig gostyngiadau i blant ar gyfer llawer o berfformiadau o'r panto eleni. Yn gyffredinol mae'r gostyngiad ar gael ym mis Tachwedd, dechrau mis Rhagfyr a mis Ionawr, ond nid yn ystod cyfnod brig y Nadolig. Rydyn ni'n ceisio cadw prisiau ein tocynnau ni mor isel â phosibl ac mae gennym ni fwy na 2,500 o docynnau ar gael am ddim ond £20 ar gyfer y panto. Os oes arnoch chi angen unrhyw help gyda dod o hyd i'r tocynnau gwerth gorau, cofiwch ein ffonio ni!

Pa bryd bydd y byrddau yn y bwyty ar gael i'w harchebu ar gyfer Pinocchio?

Ar ôl i chi archebu eich tocynnau, byddwn yn anfon dolen mynediad arbennig atoch ar gyfer archebu bwrdd Cyn y Sioe yn ystod y panto.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!