News Story
Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint yn Serennu yng Ngwobrau Ystadau Cymru
Mae ailddatblygiad trawiadol Theatr Clwyd wedi cipio Gwobr Canmoliaeth yng Ngwobrau Ystadau Cymru eleni. Mae'r gwobrau cenedlaethol yn dathlu degawd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae cystadleuaeth frwd amdanyn nhw gydag enillwyr o bob cwr o Gymru.

Mae trawsnewid adeilad hoff Theatr Clwyd o 1976 wedi bod yn fuddugoliaeth ar y cyd i Gyngor Sir y Fflint a Theatr Clwyd, sydd wedi cael eu canmol am eu hymrwymiad beiddgar i gynaliadwyedd a chynnal yr ased cymunedol hanfodol yma.
Mae'r prosiect wedi sicrhau effaith economaidd well i'r rhanbarth, wedi creu 80 o swyddi parhaol newydd sbon, ac wedi darparu adeilad gwyrdd a chynaliadwy heb danwydd ffosil, gan helpu'r theatr i greu llai o effaith ar y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Kate Wasserberg:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint wedi cael eu cydnabod am ddarparu ein hadeilad newydd ni, gan alluogi i ni barhau i wasanaethu ein cymuned a'n cynulleidfaoedd am genedlaethau i ddod mewn ffordd fwy cynaliadwy.”
Dywedodd Rod Taylor, Rheolwr Corfforaethol Rhaglen Gyfalaf ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld y prosiect pwysig yma’n cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae’r wobr yma’n adlewyrchu ein partneriaeth gadarn ni gyda Theatr Clwyd a’n hymrwymiad ni ar y cyd i ddarparu cyfleusterau diwylliannol cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau.”
Gyda gofod ffres ar gyfer creadigrwydd, dysgu a threftadaeth ddiwylliannol, mae Theatr Clwyd yn barod i roi pleser i gynulleidfaoedd am genedlaethau i ddod.
Mwy o Newyddion

Ffefryn panto Theatr Clwyd, Phylip Harries, yn troi at Shakespeare ym mis Ebrill eleni.
10 Ebrill 2026

Theatr Clwyd yn lansio rhaglen datblygu artistiaid Cymreig nodedig: Stiwdio Clwyd
23 Ionawr 2026
