News Story

Prif Swyddog Gweithredol Theatr Clwyd ar Restr Fer am Wobr Werdd
Mae Prif Weithredwr Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford, yn dathlu gyda'r newyddion ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn โ Cynaliadwyedd yng Ngwobrau Cyfarwyddwyr y Flwyddyn IoD Cymru 2026.
Wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru, mae'r categori'n cydnabod yr arweinydd busnes gwyrdd mwyaf moesegol a chyfrifol yn gymdeithasol yng Nghymru - gan ddathlu arweinwyr sy'n plethu meddwl arloesol a datgarboneiddio yn ffabrig eu sefydliadau.
Mae'r enwebiad yn dilyn ailddatblygiad nodedig Theatr Clwyd, sydd wedi gosod cynaliadwyedd yn gwbl ganolog gyda system pwmp gwres ffynhonnell aer di-nwy a dull blaengar o warchod pobl, llefydd a'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd enwauโr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar ddydd Gwener, 8 Mai 2026.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford:โRydw iโn ymfalchรฏoโn fawr yn siwrnai amgylcheddol Theatr Clwyd. Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi creu newid llwyr o ran sut mae ein sefydliad niโn gweithio, ond hefyd i ffabrig a dyluniad ein hadeilad, o bympiau gwres ffynhonnell aer i baneli solar. Maeโr enwebiad ymaโn dyst i waith caled ein timau ni โ o aelodau ein cwmni iโr penseiri โ wrth ddychmygu ac wedyn cyflawni dyfodol gwyrdd, cynaliadwy.โ


