Ar gyrion pentref ar lan y môr, mae pysgotwraig yn byw; un sy'n drewi, yn sengl ac yn destun gwawd cyson. Un diwrnod, wedi hen flino ar ei chymdogion cul a diflas, mae hi'n comisiynu gŵr iddi hi ei hun, i gael ei wneud o wiail. Mewn tref sydd fel arall yn geidwadol, mae'r berthynas anghonfensiynol yma’n tanio dicter, cenfigen ac anhrefn.



