Ffioedd Archebu

Pryd maen nhw'n dechrau
Bydd ffioedd archebu’n cael eu cyflwyno o 1 Mehefin 2026 ymlaen.

Pam mae gennym ni ffioedd archebu nawr
Fel llawer o theatrau, rydyn ni'n wynebu costau cynyddol o ran ynni, staffio a deunyddiau. Mae ffioedd archebu’n ein helpu ni i bontio'r bwlch heb dorri'n ôl ar y sioeau rydych chi'n eu mwynhau na'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn ein cymunedau. Mae pob ffi yn mynd yn syth yn ôl i'n gwaith cymunedol ni, gan gadw ein llwyfannau'n brysur a'n drysau ar agor.

Oes modd osgoi talu ffioedd archebu?
Nac oes yn anffodus - mae ffioedd archebu’n berthnasol i bob tocyn sy'n cael ei brynu, sut bynnag fyddwch chi'n dewis archebu.

Y newyddion da?
Nid yw aelodau Theatr Clwyd yn eu talu am ddigwyddiadau fydd yn cael eu prynu gennym ni yn Theatr Clwyd a Neuadd William Aston. Am ddim ond £3 y mis, mae ein haelodaeth yn talu amdani ei hun yn gyflym, ac fe fyddwch chi'n cael manteisio o ran blaenoriaeth wrth archebu ac arbedion yn ein bar hefyd. Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

Pam mae ffioedd archebu’n cael eu cyflwyno ar ôl i sioeau fynd ar werth?
Mae gennym ni raglen gyson, dreigl, o sioeau ar draws Theatr Clwyd a Neuadd William Aston, gyda thocynnau’n mynd ar werth fisoedd lawer ymlaen llaw yn aml. Does dim "dyddiad dechrau" glân lle nad oes dim byd eisoes ar werth. Yn hytrach na gohirio ymhellach, rydyn ni wedi dewis dyddiad cyflwyno clir ac wedi'i roi ar waith yn gyson o'r fan honno ymlaen.