NT Live: Hay Fever Gradd 12A.

See dates and times   –

4 Stars

WhatsOnStage

4 Stars

Radio Times

Mae Christine Baranski, enillydd gwobrau Emmy a Tony, yn ymddangos am y tro cyntaf yn y West End ochr yn ochr ag un o gewri’r llwyfan a’r sgrin, ac enwebai am Wobr Academi, Richard E. Grant, yng nghomedi fendigedig Noël Coward.

Mae Judith Bliss wedi ymddeol o’i bywyd ar y llwyfan ac mae hi’n hiraethu am y gymeradwyaeth. Wrth iddyn nhw dreulio eu hamser yn segura yn eu cartref gwledig, mae gweddill y teulu’n rhy brysur yn meddwl amdanyn nhw’u hunain i fod yn gynulleidfa dda. Felly, mae Judith yn gwahodd edmygydd ifanc i fod yn westai iddi dros y penwythnos. Ond heb yn wybod iddi hi, mae gan bob un o aelodau’r teulu Bliss eu gwestai eu hunain yn cyrraedd ar yr un pryd yn union.

Wedi’i ffilmio’n fyw o’r West End, Emily Burns sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd miniog yma.