GIANT- The Play Gradd 15.

See dates and times  

Mae GIANT, y ddrama 5 seren a enillodd fri'r beirniaid gyda John Lithgow (Killers of the Flower Moon, The Crown) fel Roald Dahl, yn dod i'r sgrin fawr. Yn enillydd 3 Gwobr Olivier®, gan gynnwys y Ddrama Orau, a Gwobr Tony® am yr Actor Gorau mewn Drama (John Lithgow), ffilmiwyd y cynhyrchiad yma'n fyw yn y West End yn Llundain cyn ei rediad ar Broadway a werthodd bob tocyn. Mae'r cast o sêr yn cynnwys Aya Cash (The Boys, The Franchise, You’re the Worst), Elliot Levey (Cold War, Patriots, Good) a Rachael Stirling (The Divine Mrs S).

Awdur plant byd-enwog dan fygythiad. Brwydr ewyllysiau yn sgil sgandal. Ac un cyfle i wneud iawn... Mae'n Haf 1983, mae The Witches ar fin cyrraedd y silffoedd ac mae Roald Dahl yn gwneud gwaith golygu munud olaf. Ond mae'r protestio am ei erthygl ddiweddar, sy'n amlwg yn wrthsemitig, yn gwrthod tawelu. Yn ystod un prynhawn yn ei gartref teuluol, ac wedi'i ysgwyd gan wrthdaro annisgwyl o ffrwydrol, mae Dahl yn cael ei orfodi i ddewis: ymddiheuro'n gyhoeddus neu beryglu ei enw da. Wedi'i ysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae GIANT yn archwilio gyda hiwmor tywyll y gwahaniaeth rhwng barn ystyriol a rhethreg beryglus gan gynnig portread cymhleth o eicon cythreulig o garismatig.