Mae Tony Evans yn ddirprwy bennaeth mewn ysgol gynradd. Mae Emma Kent yn gerddor a chyfansoddwr, ac yn fam sengl i ddwy ferch. Dydi'r naill na’r llall ddim yn adnabod ei gilydd, nes bod cyfarfyddiad annisgwyl yn newid trywydd eu bywydau.
Ar yr un bore, mae'r ddau’n wynebu diagnosis o glefyd Parkinson ar yr un pryd. Stori Tony ac Emma ydi hon – cyfeillgarwch sy'n datblygu mewn ffordd annisgwyl. Stori sy'n llawn hiwmor ac emosiwn, her a dewrder, cerddoriaeth a dawns – gan fynd y tu hwnt i ragdybiaethau am gyflwr sydd ddim yn cael ei ddeall yn dda iawn, a goresgyn rhwystrau i ddod o hyd i lawenydd, rhyddhad a chariad.



