Archebu i Aeolodau a Gwirfoddolwyr o 21 Gorffennaf 2026
Archebu i’r cyhoedd o 28 Gorffennaf 2026
Ymunwch â'r sêr wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o'n cartref ni ar ben y bryn yn y digwyddiad codi arian arbennig yma.
Ers hanner canrif, rydyn ni wedi bod yn creu theatr o safon byd ac yn meithrin talentau rhyfeddol.
Dewch i weld eich ffefrynnau ar y llwyfan a'r sgrin yn perfformio'r eiliadau dydych chi erioed wedi'u hanghofio, rhannu eu straeon heb eu hadrodd o'r tu ôl i'r llen, a rhoi cipolwg cyntaf unigryw i chi ar gynyrchiadau Theatr Clwyd sydd i ddod.
Yn serennu:
Mathau o docynnau
Beth mae eich tocyn yn ei olygu i ni.
Nid dim ond sedd ydi eich tocyn chi, mae'n cefnogi ein 50 mlynedd nesaf, gyda'r holl elw'n mynd tuag at waith ar ac oddi ar ein llwyfannau.
Tocyn safonol.
o £61.50 (cynnwys ffoedd)
Tocyn VIP.
Mae tocynnau VIP yn rhoi'r seddigorau i chi ac yn cynnwys rhaglen i gofio, diod a derbyniad canapé ar ôl y sioe gyda'r perfformwyr.
£121.50 (cynnwys ffoedd)
Bwydlenni unigryw yn Bryn Williams.
Ychwanegwch archeb bwrdd i ddathlu mewn steil.
- Te Prynhawn cyn y sioe.
- Bwydlen osod Wedi'u Creu Yma ar ôl y sioe.
Gallwch weld y bwydlenni ac archebu bwrdd wrth dalu.













