Dewi Wykes
Graddiodd Dewi o'r Bristol Old Vic Theatre School yn 2021. Ers hynny cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Stage Debut am ei ran yn Petula oedd yn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Cymru, National Theatre Wales ac August 012.
Mae o hefyd wedi teithio'r sioe The Famous Five Musical gyda Chichester Festival Theatre a Theatr Clwyd, ac aeth ar daith Nadolig diwethaf efo Cwmni Mega gyda'r panto Culhwch ac Olwen.
Mae ei waith teledu yn cynnwys The Sister Boniface Mysteries (BBC Studios), Y Goleudy (S4C/Boom Cymru), Bextra (S4C/Ceidiog), Mr Bates vs The Post Office (ITV/Little Gem), Beyond Paradise (BBC/Red Planet) a Poll Pri (Delvrys/Film Hub South West).